Cyfuno
Mae Cyfuno yn gynllun gan Lywodraeth Cymru sy'n ceisio helpu i fynd i'r afael â thlodi.
Mae’n creu cyfleoedd i bobl na fyddai fel arfer yn cael cyfle i gymryd rhan mewn treftadaeth a diwylliant efallai. Mae gweithgareddau diweddar yn Sir Conwy yn cynnwys:
- sesiynau stori i ysgolion
- gweithdai celf
- ymweliadau ag amgueddfeydd
- prosiectau archif
- gwella sgiliau digidol
- prosiectau lles
- cyfleoedd gwirfoddoli
- prosiectau hel atgofion
- cyfleoedd ffotograffiaeth
- cyfleoedd ennill cymhwyster
Mae Cyfuno yn gweithio gyda phartneriaid yn Sir Conwy yn cynnwys:
- Cadw
- Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
- Venue Cymru
- Criw Celf
- Llenyddiaeth Cymru
- Mostyn
- Prifysgol Bangor
- Cymunedau am Waith
- Youth Shedz
- Home-Start
I gymryd rhan ac am fwy o wybodaeth, cysylltwch â shirley.williams1@conwy.gov.uk