Conwy Culture CYM

Search website
Cormorant installed

Mae nythfeydd mwyaf y bilidowcar yn y DU i’w canfod ar Drwyn y Fuwch. Mae’r adar anhygoel yma i’w gweld yn aml ar hyd arfordir Bae Colwyn. Dydi adenydd yr adar ddim yn wrth-ddŵr ac felly fe allwch chi eu gweld yn aml yn sychu eu hadenydd trawiadol.

Daeth y syniad ar gyfer y gosodiad hwn gan fyfyriwr Coleg Llandrillo. Mae’r plastig ym mol y cerflun yn amlygu effaith plastig ar fywyd gwyllt. Yn anffodus mae 100,000 o famaliaid a chrwbanod a miliwn o adar y môr yn cael eu lladd bob blwyddyn oherwydd llygredd plastig yn ein moroedd (Llywodraeth y DU, 2018).

Disgrifiad artist y Theatr Byd Bychan

Mae ffrâm y gosodiad wedi’i chreu drwy weldio rodiau dur. Mae’r adenydd wedi’u gwneud allan o baneli silffoedd ac mae’r traed yn hen bâr o esgyll nofio a gafwyd hyd iddyn nhw gan CREST. Mae’r plu wedi’u gwneud o hen deiars beic a thiwb olwyn tractor. Mae pigynnau’r adenydd a'r frest wedi’u gwneud yn defnyddio gardau olwynion beic cwad a gafodd ei dipio’n anghyfreithlon. Mae’r cynffon ac ochr isaf y bol wedi’u gwneud o hen gadair ardd blastig ac mae’r pig wedi’i wneud o dwb melyn hyblyg a gafodd ei daflu. Mae’r beipen ddraenio tir ddu yn gwneud gwddf perffaith ac mae’r bol yn cynnwys poteli plastig untro.