RHOI EITEM I’N CASGLIAD AMGUEDDFA
Mae rhoddion neu eitemau gan unigolion hael yn ein galluogi i gyfoethogi a thyfu ein casgliadau hanesyddol.
Mae eitemau a roddir yn cael eu cofnodi, eu cadw a gofalir amdanynt i’r safonau uchaf. Fodd bynnag, fel y gallwch ddychmygu, ni allwn dderbyn bob eitem a gynigir i ni. Mae angen i bob eitem bosib gydymffurfio â’n polisi casglu a’i hymchwilio er mwyn sefydlu os yw’n gyfreithiol ac yn foesegol.
Rhaid i unrhyw roddion newydd a dderbynnir i’n gofal gynrychioli ychwanegiad ystyrlon i’r casgliad, gan ddarparu mewnwelediad i fywydau pobl yn sir Conwy.