Conwy Culture CYM

Search website
IMG 3414 1

Daeth yr hufen iâ octopws i fodolaeth yn ystod gweithdy gyda myfyrwyr Cwrs Sylfaenol Celf Coleg Llandrillo ac roedd y Theatr Byd Bychan wedi gwirioni!

Oherwydd cynhesu byd-eang mae nifer y seffalopodau fel octopysau a môr-lewys yn cynyddu yn nyfroedd y DU. Mae’r hufen iâ octopws wedi’i alw’n Fonesig Penelope yn dilyn cystadleuaeth gan gaffi Station View. Mae'r Fonesig Penelope yn gafael mewn arwydd ‘i’r traeth’ ac yn dangos y ffordd i’r traeth gydag un o’i thentaclau.

Disgrifiad artist Theatr Byd Bychan

Mae ffrâm y Fonesig Penelope wedi’i gwneud allan o ddarnau o beipiau gwresogi a roddwyd i’r prosiect. Fflotiau nofio ydi’r llygaid a phapur swigod ydi’r croen, sydd wedi’i beintio a’i orchuddio mewn tâp sefydlogydd UV clir. Roedd y côn traffig a’r rhwyd pysgota wedi golchi ar y traeth, a oedd yn gwneud côn hufen iâ perffaith.