Conwy Culture CYM

Search website
Fisher Dog shark fish

Mae’r gored bysgota ganoloesol a’r maglau pysgod a arferai fod ym Mhwnt Rhos wedi hen fynd mwy neu lai, ond yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg daeth ci o'r enw Jack yn enwog yn lleol am ddal pysgod yn y gored... hynny ydi, nes iddo gael ei ladd gan siarc yn 1873! Mae’r Theatr Byd Bychan wedi dod â bywyd newydd i’r hanes hwn ar ffurf gosodiad siarc, ci a physgodyn.

Mae’r Theatr Byd Bychan wedi dewis maelgi fel y tramgwyddwr. Mae maelgwn yn gorwedd, gyda chuddliw, yn y basddwr yn aros i’w hysglyfaeth ddod yn nes ac yna’n bwrw’r ergyd farwol. Mae llond llaw o bobl wedi gweld maelgwn, sydd mewn perygl difrifol, yn nyfroedd Cymru, ac er diwedd anffodus Jack y ci nid yw’r siarcod hyn yn fygythiad i bobl.

Gwyliwch yr animeiddiad byr yma am hanes Jac y Ci Pysgota. Darganfyddwch fwy drwy lawrlwytho ap y Llwybr Dychmygu yn www.imaginetrail.com.

Deunyddiau: Ci, pysgodyn a maelgi allan o ddur* 6mm wedi’i dorri â laser. Mae’r ci wedi’i beintio’n ddu. Mae’r maelgi a’r pysgodyn wedi’u creu allan o ddur wedi’i wresogi a’i blygu, a gydag araen ddiogelu. Mae ton o blastig wedi’i ailgylchu oddi tanyn nhw.

*Mae 50% o’r rhan fwyaf o eitemau dur a gynhyrchir heddiw yn ddur wedi’i ailgylchu. Mae 79% o ganiau dur a deunydd pacio yn cael eu hailgylchu.