Gwirfoddoli
Amdani! Conwy
Chi Ydi Diwylliant Conwy! | You Are the Culture of Conwy!
Dod yn Gefnogwr Gwirfoddolwr
Ydych chi’n sefydliad celfyddydol neu gymunedol yng Nghonwy sydd eisiau cefnogaeth gwirfoddolwr? Dewch yn gefnogwr gydag Amdani! Conwy heddiw, a chewch gefnogaeth gan ein cohort o wirfoddolwyr!
Pwy ydym ni?
Mae Amdani! Conwy’n brosiect partneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC), Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy (CGGC) a Chelfyddydau Anabledd Cymru.
Canolbwynt Adnoddau Amdani! Conwy
Mae Amdani! Conwy’n cynnig ystod eang o adnoddau dysgu am ddim, templedi a chanllawiau i wirfoddolwyr a chefnogwyr er mwyn cefnogi a gwella mynediad yn y sector celfyddydau. Mae’r adnoddau hyn wedi cael eu datblygu gyda chefnogaeth cydweithwyr lleol gyda phrofiad bywyd go iawn.