Daeth y syniad o greu bwa gan ddisgyblion Ysgol Nant y Groes, wedi’u hysbrydoli gan Font yr Enfys ar yr A55 sy’n borth answyddogol i Fae Colwyn. Datblygwyd y syniad ymhellach gydag Uned Cyfeirio Disgyblion Penrhos Avenue ac roedd y myfyrwyr yn awyddus i adeiladu ar y themâu amgylcheddol drwy greu blodau a phryfaid peillio – gan amlygu eu pwysigrwydd i fioamrywiaeth leol. Mae pryfaid peillio ar ffurf gloÿnnod byw yn ymddangos yn yr animeiddiad hwn a grëwyd ynglŷn â'r Glyn gerllaw: Cymraeg
Bwa Pryfaid Peillio, Quiet Garden, Old Colwyn
Disgrifiad artist Theatr Byd Bychan
Mae'r bwa wedi’i greu yn defnyddio polion sgaffald wedi plygu. Mae’r pryfaid peillio wedi’u creu yn defnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau wedi’u hachub a’u hailgylchu, fel buwch goch gota allan o hen helmed swyddog heddlu gwrth-derfysg, bŵt llywio car rwber a darnau o bren haenog wedi’u peintio. Mae’r chwilen wedi’i chreu yn defnyddio hen het galed a mwgwd plastig. Mae pryf arall wedi’i wneud allan o boteli diod, peipen a phlât argraffu litho alwminiwm.
Mae’r wenynen a’r dail derw wedi’u torri o ddur*. Mae’r thema ailgylchu yn parhau gyda’r blodau sydd wedi’u gwneud yn defnyddio hen lestri picnic, tractor tegan a blaen polyn llenni haearn. Hen danc dŵr copr ydi’r haul. Mae’r morgrugyn mawr wedi’i greu yn defnyddio hen danc beic cwad, peiriant ffrio dwfn a fflôt bysgota.