Conwy Culture CYM

Search website

At:Gofion


Mae gennym 15 o flychau atgofion ar themâu, y gellir eu benthyg am ddim.

Gellir teimlo a thrin y gwrthrychau yn y blychau atgofion i helpu pobl gysylltu, cyfathrebu a datgloi atgofion. Mae llawer o’r gwrthrychau’n ymwneud â’r 1940au a’r 1950au.

IMG 2615

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • blwch cartref gwledig
  • blwch cartref glofaol
  • blwch cartref trefol
  • gwaith
  • gwisgo'i fyny
  • cas ymolchi
  • ysgol
  • chwarae
  • blwch gwnïo
  • blwch offer
  • cas gwyliau
  • blwch meddyginiaethau
  • glan y môr yn y 60au
  • plentyn y 70au
  • gartref yn yr 80au

Gellir eu defnyddio gan unigolion neu grwpiau, yn cynnwys pobl sy’n byw â dementia a phobl hŷn. I gael mwy o wybodaeth ac i fenthyg blwch atgofion, ebostiwch llyfrgell.conwy@conwy.gov.uk neu ffoniwch 01492 576 089. Gallwch glicio ar y lluniau isod i weld beth sydd y tu mewn i rai o’r blychau atgofion.