Conwy Culture CYM

Search website

Llwybr Cerfluniau Dychmygu

Mae’r Llwybr Cerfluniau yn rhan o brosiect Dychmygu Bae Colwyn sydd wedi’i ariannu gan gynllun Llefydd Gwych Cronfa Treftadaeth y Loteri. Comisiynwyd Theatr Byd Bychan i weithio gyda’r gymuned i greu’r gosodiadau cerfluniau. Nod y prosiect oedd cynnwys pobl ifanc a chreu celf gyhoeddus chwareus a diddorol dan themâu amgylcheddol a threftadaeth leol. Mae’r llwybr wedi’i ddatblygu gyda Phwyllgor Yn Ei Blodau Cyngor Tref Bae Colwyn gyda chymorth ariannol gan fferm wynt Gwynt y Môr.