Llawnlyfr Cefnogi Gwirfoddolwyr
Amdani! Conwy
Chi Ydi Diwylliant Conwy! | You Are the Culture of Conwy!
Beth ydym yn ei wneud?
Mae Amdani Conwy! yn brosiect newydd sy’n agor drysau pobl leol at gyfleoedd i wirfoddoli a bod yn llysgenhadon ar gyfer arlwy diwylliannol cyffrous Conwy.
Mae Amdani Conwy! yn cefnogi lleoliadau diwylliannol a threfnwyr digwyddiadau ac yn gweithio gyda chymunedau i wneud diwylliant, treftadaeth a’r celfyddydau yn hwyl, hygyrch ac yn gynhwysol. Does dim rhaid i chi fod yn arbenigwr ar ddiwylliant na’r celfyddydau i gymryd rhan.
Fel gwirfoddolwr mi fyddwch chi’n cael cyfle i fod yn rhan o rwydwaith cyfeillgar o amrywiaeth o bobl. Byddwch hefyd yn cael mynediad tu ôl i’r llenni, gan sgwrsio gyda’r cyhoedd i ddatblygu sgiliau newydd a dysgu gan artistiaid a gweithwyr sy’n byw ac yn gweithio yn ein hardal.
Pwy ydym ni?
Mae Amdani Conwy! yn cynnwys pawb sydd eisiau cymryd rhan.
Wedi’i gynnal drwy Bartneriaeth Creu Conwy mae’r prosiect yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, CGGC (Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy) a Disability Arts Cymru. Gyda’i gilydd bydd y sefydliadau hyn yn adeiladu fframwaith cefnogi newydd er budd y bobl a’r celfyddydau yng Nghonwy.
Mae Amdani Conwy! yn brosiect peilot sydd wedi’i ariannu’n hael gan gronfa Dinasoedd Gwirfoddoli Spirit of 2012 a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
RYDYM YN RECRIWTIO
Dros y ddwy flynedd nesaf byddwn yn cyhoeddi cyfres o gyfnodau recriwtio er mwyn cynyddu ein cymuned o wirfoddolwyr yn raddol. Peidiwch â phoeni os ydych newydd fethu un, bydd cyfle arall i gofrestru’n fuan.
Gallwch fynegi eich diddordeb a byddwn yn eich rhoi ar restr aros yn barod ar gyfer ein cyfnod recriwtio nesaf. Cyflwynwch eich datganiadau o ddiddordeb yma.
Bydd y cyfnod recriwtio nesaf rhwng 1 ac 17 Medi 2023. Ar ôl i chi gofrestru byddwch yn cael eich gwahodd i sesiwn hyfforddi ddiwedd mis Medi. Cofiwch wneud amser ar gyfer yr hyfforddiant hwn gan ei fod yn orfodol i bob gwirfoddolwr.
Croesawu Gwirfoddolwyr
Rydym yn derbyn cyfleoedd i wirfoddoli ar gyfer Amdani! Conwy nawr.
Sylwch na chaiff ein gwirfoddolwyr eu hyfforddi tan fis Gorffennaf, felly dylech gyflwyno cyfleoedd sy’n digwydd ar ôl mis Gorffennaf yn unig.
Mae’r holl wybodaeth am groesawu gwirfoddolwyr ar gael yn ein llawlyfr.
Volunteer Host Handbook
Cysylltwch â ni:
- Amdani@cvsc.org.uk
- 07743932406