Conwy Culture CYM

Search website

LLENWI gweithdy gyda Rhys Trimble

BARDDONIAETH MAgned OERGELL – GWEITHDY GALW HEIBIO BARDDONIAETH ‘WENGLISH’ GYFOES

Mae Dr Rhys Trimble yn fardd Cymraeg, Saesneg a ‘Wenglish’, bardd gweledol, athro, cyfieithydd, perfformiwr a beirniad niwroamrywiol, dwyieithog a gafodd ei eni yn Zambia a’i fagu yn Ne Cymru ac sy’n byw yng Ngogledd Cymru. (www.rhystrimble.com)

Ymunwch â Rhys yn y sesiynau galw heibio yma yn y llyfrgelloedd am nifer o weithgareddau sy’n datblygu iaith greadigol, i ddewis y geiriau a’r ymadroddion sy’n cael eu defnyddio yn ein murluniau rhyngweithiol.

Gweithgareddau:

Barddoniaeth magned oergell mega: (felcro) wedi’i chreu o Gymraeg a Saesneg yn seiliedig ar farddoniaeth a gafodd ei hysgrifennu yn yr ardal gan Ieuan ap Llywelyn, Lewys Aled a Siôn Conwy. Bydd geirfa o brosiect Gwreiddiau Gwyllt hefyd ar gael ei chi ei defnyddio [https://mentrauiaith.cymru/en/...] i atgoffa rhai sy’n cymryd rhan o’r holl eiriau difyr sy’n disgrifio byd naturiol Cymru a’i rhywogaethau.

Cylchgronau Cymeriadau: defnyddio darlunio i greu geirfa weledol i’r arlunwyr weithio ohoni, a bydd hynny’n sail i greu’r murluniau.

Diarhebion: gan ddefnyddio dywediadau Cymraeg fel sail, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael eu hannog i greu eu fersiynau cyfoes eu hunain.

Bydd dull trawsieithu yn caniatáu i siaradwyr Cymraeg a Saesneg gyd-greu geiriau a delweddau lleol diddorol i helpu i ffurfio sail y gosodiadau gan Livi a Tomos.

Gweithdy yn addas i rai o bob oed

DYDDIADAU

Llyfrgell Conwy:- dydd Iau 9 Mai 1–4pm

Llyfrgell Llandudno:- dydd Iau 16 Mai 4–7pm

Llyfrgell Bae Colwyn:- dydd Mawrth 21 Mai 4–7pm

Llyfrgell Abergele:- dydd Mercher 22 Mai 4–7pm

Llyfrgell Llanrwst:- dydd Mercher 29 Mai 4–7pm

Ariennir y prosiect hwn gyda diolch i Gronfa’r Pethau Pwysig, Llywodraeth Cymru, fel rhan o Strategaeth Ddiwylliannol ehangach Creu Conwy, a gaiff ei chyflwyno gyda chefnogaeth Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Untitled design 1