Conwy Culture CYM

Search website

Drysau Agored 2023

Croeso i Ddrysau Agored 2023 – Dathliad blynyddol Cadw o adeiladau hanesyddol Cymru.

Ym mis Medi eleni, bydd amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau cyffrous yn cael eu cynnal am ddim yma yng Nghonwy;

Dewch i ddarganfod perlau pensaernïol

Dewch i wylio perfformiadau byw

Dewch i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol

I ddarganfod mwy ac i gadw lle dilynwch y ddolen hon Conwy - Drysau Agored Ychwanegol

I weld rhaglen lawn Cadw o leoliadau sy’n cymryd rhan dilynwch y ddolen hon Drysau Agored Cadw

Cefnogwyd y gweithgaredd Drysau Agored a Mwy eleni drwy Creu Conwy Strategaeth Ddiwylliannol Sir Conwy 2021-2026, a’i ariannu drwy Grant Plant a Chymunedau Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â creu@conwy.gov.uk neu ffoniwch 01492 576139.