Conwy Culture CYM

Search website

Mae’r Llwybr Cerfluniau yn rhan o brosiect Dychmygu Bae Colwyn sydd wedi’i ariannu gan gynllun Llefydd Gwych Cronfa Treftadaeth y Loteri. Nod y prosiect oedd cynnwys pobl ifanc a chreu celf gyhoeddus chwareus a diddorol dan themâu amgylcheddol a threftadaeth leol. Mae’r llwybr wedi’i ddatblygu gyda Phwyllgor Yn Ei Blodau Cyngor Tref Bae Colwyn gyda chymorth ariannol gan fferm wynt Gwynt y Môr.

Yn dilyn proses agored, comisiynwyd y Theatr Byd Bychan o Geredigion i weithio ar y prosiect. Datblygwyd y syniadau ar gyfer y llwybr drwy weithdai ac ymgysylltu â myfyrwyr Cwrs Sylfaen Celf Coleg Llandrillo. Cynhaliwyd gweithdai creadigol gyda disgyblion Ysgol Nant y Groes, Uned Cyfeirio Disgyblion Penrhos Avenue a chlwb animeiddwyr TAPE Music and Film. Yn ogystal, gweithiodd y Theatr Byd Bychan â CREST i alluogi pobl ar leoliadau â chymorth ganfod deunyddiau y gellir eu hailddefnyddio i greu cerfluniau. Gan weithio gyda’r syniadau creadigol a’r wybodaeth leol gan y bobl ifanc, yn ogystal â deunyddiau achub gwych, aeth y Theatr Byd Bychan ati i ailgylchu a dod â'r syniadau yn fyw.

Yn ogystal â’r llwybr cerfluniau, cynhaliwyd cyfres o sesiynau casglu sbwriel. Wedi’u hysbrydoli gan Gyfeillion y Ddaear Conwy a dan arweiniad Cyfeillion Parc Eirias, aeth ysgolion lleol ati i greu ffilm sy’n dathlu pwysigrwydd edrych ar ôl eich bro. (Dolen i ddilyn)