Conwy Culture CYM

Search website

LLENWI gweithdy gyda Livi Wilmore

GWRTHRYCH ARWR – CYFLWYNIAD i gerflunio 3D ac ADRODD STRAEON

Mae Livi Wilmore yn artist digidol o Gymru sy’n defnyddio technoleg ymdrochi i ddweud straeon unigryw a gwneud y dinod yn rhywbeth difyr. Yn y cyflwyniad hwn i weithdy cerflunio 3D, bydd rhai sy’n cymryd rhan yn gweld sut i gerflunio ‘gwrthrych arwr’ gan ddefnyddio Nomad Sculpt ar iPadiau sy’n cael eu darparu. Dyma adnodd gyda safle gwe cyfatebol sydd am ddim, ar gyfer ffilmiau animeiddio, datblygu gemau, argraffu 3D a llwyth o bethau artistig eraill.

Beth yw gwrthrych arwr meddech chi?

‘Gwrthrych arwr’ yw gwrthrych sy’n ymddangos yn ddinod ond sydd wrth wraidd stori. Gallai olygu hen gwpan wedi colli ei lliw yn nhŷ eich ffrind gorau sy’n eich atgoffa am sgyrsiau wythnosol, neu garreg welsoch chi ar lawr oedd yn edrych yn eithaf tebyg i’ch ci!

Rydyn ni eisiau casglu eich straeon unigryw chi o’r ardal leol i siapio ein murluniau rhyngweithiol gyda phersonoliaeth wrth galon pob un.

Gweithdy yn addas i rai o bob oed.

DYDDIADAU

  • Dydd Mawrth 28th Mai
  1. Llyfrgell Llandudno: 1-3pm
  2. Llyfrgell Bae Colwyn: 5-7pm
  • Dydd Mercher 29th Mai
  1. Llyfrgell Conwy: 10am-12pm
  2. Llyfrgell Abergele: 1.30-3.30pm
  • Dydd Iau 30th Mai
  1. Llyfrgell Llanrwst: 1-3pm


Ariennir y prosiect hwn gyda diolch i Gronfa’r Pethau Pwysig, Llywodraeth Cymru, fel rhan o Strategaeth Ddiwylliannol ehangach Creu Conwy, a gaiff ei chyflwyno gyda chefnogaeth Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Untitled design 1