Conwy Culture CYM

Search website

Gigs y Gaeaf IFANC

Gigs y Gaeaf IFANC 2024

Yn dilyn llwyddiant ysgubol Gigs y Gaeaf 2022, mae Creu Conwy yn falch o ddod â Gigs y Gaeaf Ifanc 2024 i chi!

Bydd Beacons Cymru yn dod â’u digwyddiad Basecamp i Ogledd Cymru am 11.00am ar 8 Mawrth 2024. Bydd y digwyddiad Basecamp yn gyfle i chi gwrdd ag arwyr y diwydiant cerddoriaeth leol a chysylltu â phobl â’r un meddylfryd â chi. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar safle Cerddoriaeth a Ffilm Gymunedol TAPE yn Hen Golwyn a bydd yn gyfle gwych i chi dderbyn gwybodaeth gyffrous a chyfleoedd newydd a fydd o gymorth i chi gyda’ch gyrfa greadigol.

Tocynnau ar gael yma - Basecamp tickets

Mae Beacons Cymru a Gigs y Gaeaf Ifanc wedi llwyddo i recriwtio grŵp o bobl ifanc i fod yn rhan o’r Rhwydwaith Hyrwyddwyr Ifanc. Mae’r Rhwydwaith Hyrwyddwyr Ifanc yn cynnig y cyfle i’r bobl ifanc hyn ddatblygu eu sgiliau fel hyrwyddwyr drwy roi mynediad iddynt i rwydweithiau diwydiant newydd ac yn y pen draw i gynnal digwyddiadau cerddoriaeth fyw yn eu cymunedau lleol.

Bydd manylion am y digwyddiadau hyn ar gael yn fuan!

I gael mwy o wybodaeth am Beacons Cymru

Basecamp

Mae’r prosiect Creu Conwy hwn yn cael ei gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’i ariannu trwy Gyllid ‘Creu’, Rhaglen Ariannu’r Celfyddydau y Loteri Genedlaethol. Ariennir Creu Conwy gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.