Conwy Culture CYM

Search website

VRï X Cywaith Dawns Dance Collective CIC

Noson o gerddoriaeth werin siambr a dawns fel rhan o Gigs y Gaeaf

VRÏ

A Mwldan Production / Cynhyrchiad y Mwldan

Enillwyr Albwm Gorau Gwobrau Gwerin Cymru ddwywaith (albwm debut Tŷ Ein Tadau (2019) ac islais a genir 2022), VRï yw Jordan Price Williams (sielo, llais), Aneirin Jones (feiolin, llais) a Patrick Rimes (feiola, feiolin, llais). Wedi’u hysbrydoli gan stori anhygoel cyfnod pan gafodd cerddoriaeth a dawns draddodiadol Cymru eu darostwng gan gapeli’r Methodistiaid, ac, yn gynharach, ei hiaith gan y Ddeddf Uno, mae VRï yn taflu goleuni newydd ar draddodiad gwerin bywiog sy’n harneisio egni amrwd y ffidil gyda cheinder y feiolin, a phrydferthwch cerddoriaeth siambr gyda llawenydd a phleserau sesiwn mewn tafarn, gyda harmonïau lleisiol pwerus yn sail i’r cyfan.

Cywaith Dawns | Dance Collective CIC

Mae Dance Collective CIC yn arbenigo mewn gweithio ar y cyd â chymunedau i ddarparu cyfleoedd i gymryd rhan a gwylio dawns yng Ngogledd Cymru. Mae eu gwaith yn cael ei ddylanwadu gan dirweddau, straeon a threftadaeth Gogledd Cymru.

Mae cydweithio gyda VRï yn foment gyffrous i greu gwaith newydd sy’n cael ei ysbrydoli gan eu cerddoriaeth.