Y Gŵyl Archeoleg 2025
Cymerodd Ganolfan Ddiwylliant Conwy ran yn yr Ŵyl Archeoleg am y tro cyntaf yn 2025. Gŵyl Brydeinig flynyddol a drefnir gan Gyngor Archeoleg Prydain yw hon, a gynhaliwyd o 19 Gorffennaf tan 3 Awst.
Yn dilyn y gwaith rhesymoli archeolegol gwych y bu i Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru ei ariannu ar ein cyfer y llynedd, bu i ni amlygu archeoleg fel casgliad allweddol yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy.
Fel rhan o’r ŵyl, bu i ni ddarparu tri gweithdy addysgiadol a diddorol i blant yn y Ganolfan Ddiwylliant (ar 23, 25 a 26 Gorffennaf). Bu i ni gyflogi archeolegwyr, artistiaid a hwyluswyr amgueddfeydd i gynnal sesiynau peintio a gwneud printiau, sesiynau archeoleg ymarferol gydag adluniadau a gwrthrychau go iawn, yn ogystal â sesiynau arddangos naddu fflint a gwaith metel. Roedd y gweithdai hyn yn rhad ac am ddim yn ystod y gwyliau haf, gan gyflwyno archeoleg i gymunedau a theuluoedd na fyddan nhw fel arall wedi cael y profiadau hyn oherwydd y gost.
Thema’r ŵyl oedd ‘Archeoleg a Lles’, ac felly cyflwynodd y gweithdai hanes yr hen fyd lleol a helpu i wella lles pobl ifanc a’u synnwyr o hunaniaeth, gan fod treftadaeth yn gallu dylanwadu ar hunaniaeth a synnwyr pobl o’u hunain.
Mae’r gwaith celf a grëwyd yn ystod y gweithdai bellach ar ddangos yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy gyda gwybodaeth gysylltiedig, gan ddod yn adnodd i unigolion, twristiaid a grwpiau sy’n ymweld â’r ganolfan a sicrhau hirhoedledd yr ŵyl â’i heffaith.
Diolch i Mônolith Archaeology ac Elly Strigner am wneud y digwyddiad hwn yn llwyddiant ysgubol.