Conwy Culture CYM

Search website
LLENWI - Conwy 4
LLENWI - Conwy 3
LLENWI - Conwy 2
LLENWI - Conwy

BETH MAE’N EI DDWEUD?

CASTELL PAWB EI DŶ

EVERYONE’S CASTLE IS HIS HOME

BETH YW HYN? - Dysgwch fwy am yr hyn a ysbrydolodd y darn

Mae dyluniad y murlun, sydd fel porth i gopa gwyntog Mynydd Conwy yn ein profiad realiti estynedig, yn cynnwys lluniau sy’n symbolaidd i Gonwy, (fel Jac y Do, y castell, bysedd y cŵn a gyflwynwyd i Brydain drwy ardd e gastell y Frenhines Eleanor, a blwch yn cynnwys llofnodion nifer o ferched o Gonwy drwy Ddeiseb Heddwch y Merched 1924. Yn cydblethu o fewn y rhain mae symbolau a delweddau eraill a gyflwynwyd gan y cyhoedd.

Mae arddull y dyluniad yn talu teyrnged i furluniau Trompe L'oeil (Tric y llygad) Rex Whistler ym Mhlas Newydd, Ynys Môn, sydd wedi eu dylunio i edrych fel pe baent wedi eu naddu i’r garreg, gan gyd-fynd â’r eglwys hanesyddol. Wrth fynd drwy'r porth i’r byd digidol, gall pobl gweld copa Mynydd Conwy, sydd wedi ei ysbrydoli gan arddull celf Stiwdio Ghibli Hayao Miyazaki. Daeth Hayao i ymweld â Chymru a dyma lle wnaeth ysbrydoli ei ddyluniad ar gyfer ‘Castle in the Sky’, sy’n seiliedig ar y llyfr o’r un enw gan yr awdur o Gymru, Dianna Wynn Jones.

Yn y pellter fe allwch weld ‘Castell Himeji' yn Japan, - castell y mae Castell Conwy wedi'i efeillio ag. Mae’r dywediad canolog ‘Castell pawb ei dŷ’ yn cyfleu balchder preswylwyr Conwy.


MWY O STRAEON!

Atgofion, straeon am Gonwy wedi eu casglu gan y gymuned: