Cefndir
Mae Diwylliant Conwy yn rhan o wasanaeth Diwylliant, Llyfrgelloedd a Gwybodaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae’n cynnwys Archifau a Chofnodion Modern Conwy, Amgueddfeydd Conwy, Oriel Colwyn ac Allgymorth Diwylliant.
Archifau
Mae Archifau Conwy yn cynnwys miloedd o eitemau yn cynnwys dogfennau, mapiau a lluniau’n ymwneud â’r sir gyfan – dewch i ddarganfod beth sydd gennym a dechrau archwilio eich hanes.
Celfyddydau a Threftadaeth
Darganfod hanes cyfoethog Sir Conwy drwy lwybrau, arddangosfeydd ac adnoddau ar-lein.
Allgymorth Diwylliant
Mae'r tîm Allgymorth Diwylliant yn arwain ar gyflawni Creu Conwy - Tanio’r Fflam, Strategaeth Ddiwylliannol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda’r sector creadigol ac mewn partneriaeth â chymunedau ledled y sir i gyflwyno gweithgaredd cyffrous a deniadol a arweinir gan y celfyddydau. Mae’r ffocws ar gefnogi lles a chreu profiadau diwylliannol bywiog i bobl leol ac ymwelwyr.
Cysylltwch â ni:
01492 576139
Amgueddfeydd
Mae gennym fwy na 1,000 o wrthrychau yng nghasgliad amgueddfeydd y Gwasanaeth Diwylliant. Mae ein gwasanaeth Amgueddfeydd yn cynnig llawer o amgueddfeydd sirol i brosiectau a digwyddiadau. Darganfyddwch fwy yma.
Polisϊau
Ymweld
Ymwelwch â'n gwefannau!