Bae Colwyn
BETH MAE’N EI DDWEUD?
Penrhyn Anfeidredd
Tu hwnt i’r gorwel
Cyfrif y cywion yn y cibau
“Brenhinoedd môr ac awyr!”
Cyfieithiad
Infinite Promontory
Off into the horizon
Count the chicks in the cages
“Kings of the sea and the sky!"
BETH YW HYN? - Dysgwch fwy am yr hyn a ysbrydolodd y darn
Daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer y dyluniad a’r farddoniaeth o hanes Pier Bae Colwyn fel lleoliad pwysig i gymdeithasu a mwynhau cerddoriaeth a oedd yn denu enwau mawr o bob cwr o’r byd a’r posteri eiconig y mae llawer yn eu cofio o’r 70au a’r 80au.
Mae barddoniaeth Rhys yn defnyddio’r ysbryd chwareus hwn gan ysgrifennu ymadroddion wedi eu hysbrydoli gan y gwylanod a’r adar sy’n rheoli strydoedd ein tref glan môr (yn ogystal â chyfeirio at arcêd y “Golden Goose” a arferai fod ar y pier) yn ogystal â’r syniad o “benrhyn diderfyn” (y pier ei hun sydd wedi bod ar sawl ffurf dros y blynyddoedd).
Mae’r elfennau digidol yn ogystal â rhannau o’r dyluniad hefyd wedi eu hysbrydoli gan y murluniau gan Eric Ravilious a Mary Adsheads o 1934 a oedd yn nodwedd amlwg am nifer o flynyddoedd. Mae’r deinosoriaid yn yr elfen ddigidol yn cyfeirio at 'Dinosaur World' a grybwyllwyd sawl tro yn ein hymgynghoriad cyhoeddus!