Conwy Culture CYM

Search website

Profwyd bod bod yn greadigol a chymryd rhan mewn gweithgareddau celf a diwylliant yn cefnogi lles! Bu Timau Allgymorth Diwylliant a Lles Meddyliol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gweithio mewn partneriaeth â Mind Conwy i ddatblygu Taith – rhaglen dan arweiniad artistiaid ar gyfer pobl sy’n wynebu heriau iechyd meddwl.

  • · “Mae’r sesiynau hyn wedi fy helpu i ffurfio grŵp o ffrindiau ac wedi rhoi’r cryfder i mi ymdopi â bywyd a phoen cronig oherwydd arthritis”.
  • · “Mae’r gweithgaredd hwn wedi / yn cael effaith amlwg ar fy iechyd meddwl a’m creadigrwydd. Mae’r dosbarthiadau hyn wedi rhoi ffocws ac wedi cyflwyno ffyrdd o ddod o hyd i ymwybyddiaeth ofalgar drwy gelf a natur.”

Mae pecyn y gellir ei lawrlwytho gyda gweithgareddau ac awgrymiadau creadigol wedi'i greu i ysbrydoli ac annog pobl i barhau â'u taith greadigol.

Yn ogystal, cynigiodd Taith gyfleoedd hyfforddi a datblygu Celfyddydau mewn Iechyd i artistiaid.

Mae Taith wedi’i ariannu drwy Gronfa Loteri Celfyddydau, Iechyd a Lles Cyngor Celfyddydau Cymru a’i gyflwyno fel rhan o gynllun Creu Conwy - Tanio’r Fflam, Strategaeth Ddiwylliannol ar gyfer Sir Conwy 2021-2028).

Prosiect Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.