Creu Conwy Strategaeth Ddiwylliannol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Conwy 2021 2026
Strategaeth Ddiwylliannol
Creu Conwy - Tanio’r Fflam, Strategaeth Ddiwylliannol Bwrdeistref Sirol Conwy.
Gweledigaeth Strategaeth Ddiwylliannol Creu Conwy ar gyfer Bwrdeistref Sirol Conwy yw: Mae diwylliant yn sbardun ar gyfer twf economaidd, lles a chysylltiad.
Datblygwyd y strategaeth yn 2021 yn dilyn ymgynghoriad cymunedol a
chydweithio â phartneriaid.
Mae wedi’i seilio ar wneud y gorau o’n lleoedd unigryw a phobl dalentog i ddatblygu rhaglen ddiwylliannol sy’n unigryw i Gonwy:
- Chwareus - Mae diwylliant yn hygyrch i bawb! Mae’n gwneud i bobl stopio, gwenu ac ymuno
- Anturus – mae’n ysbrydoli pobl i grwydro a rhoi cynnig ar rywbeth newydd.
- Cysylltiedig – Mae cymunedau a’r sector diwylliannol yn gysylltiedig ac yn cydweithio.
Mae’r strategaeth ar gael i’w darllen drwy ddilyn y ddolen isod:
Creu Conwy Cultural Strategy for Conwy County Borough 2021 2026
I wybod sut y gallwch gymryd rhan, gallwch gysylltu â ni drwy ddefnyddio'r manylion isod:
E-bost: creu@conwy.gov.uk
Rhif ffôn: 01492 576139