Conwy Culture CYM

Search website

Mae asedau treftadaeth a oedd wedi’u lleoli ym Modlondeb bellach wedi dod o hyd i gartrefi newydd yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy a Neuadd y Dref Conwy, yn barod i gael eu mwynhau a’u harddangos ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Neuadd Bodlondeb oedd cartref teulu’r Wood, a adeiladwyd gan y diwydiannwr a Maer Conwy Albert Wood ym 1877. Ym 1937 daeth yn swyddfeydd ar gyfer Cyngor Aberconwy, ac ers y 1990au, swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Roedd ymwelwyr nodedig i Fodlondeb yn cynnwys Lloyd George, Syr Edward Elgar a Lionel Edwards. Byddai’n rhesymol meddwl dros gyfnod o ddefnydd amrywiol a hir, y byddai eitemau diddorol a phwysig wedi casglu mewn adeilad o’r fath.

Roedd y Gwasanaethau Amgueddfeydd ac Archifau Conwy yn ffodus o allu cynnal arolwg sylweddol o asedau treftadaeth Bodlondeb. O ganlyniad, mae’r gwasanaeth wedi canfod a diogelu nifer o eitemau ar gyfer eu cadw ar gyfer y cyhoedd yng Nghonwy. Bydd yr eitemau yn cael eu harddangos yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy neu eu cadw yn ei ystafell ddiogel a reolir yn amgylcheddol. Bydd hyn yn sicrhau eu parhad ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol trwy eu cynnal a’u cadw mewn tymheredd, golau a’r amodau lleithder gorau. Hefyd, mae’r Gwasanaeth Amgueddfeydd yn falch y bydd nifer o eitemau yn cael eu benthyg i Gyngor Tref Conwy ar gyfer eu harddangos yn Neuadd y Dref Conwy, gan gynyddu mynediad y cyhoedd i’r arteffactau hyn.

Rhai o’r eitemau diddorol ac ysbrydoledig yw:Paneli ‘Brodwaith Crog o Groesfan Conwy’ sydd bellach yn cael eu harddangos i’r cyhoedd yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy.

- Cafodd y paneli brodwaith crog eu dylunio gan Vera Morgan a’u creu gan hanner cant o aelodau Cangen Gogledd Cymru o Urdd y Brodwyr o dan arweinyddiaeth Dorothy Bennison. Cafodd y gwaith ei greu i nodi agoriad swyddogol Twnnel A55 Conwy ym 1991 gan Ei Mawrhydi Elizabeth II.

- Plac efydd o Bont Grog Conwy Telford, yn darlunio Castell Conwy a’r bont ei hun. Mae’r plac yn ffurfio rhan o bâr a osodwyd i ddechrau bob ochr i’r bont. Bydd bellach yn cael ei arddangos gyda’i bartner yn Neuadd y Dref Conwy; y tro cyntaf i’r pâr gael eu dangos ynghyd i’r cyhoedd ers 1959.

Dywedodd y Cynghorydd dros Ddiwylliant, Dilwyn Roberts:

“Mae gwaith Gwasanaethau Amgueddfeydd ac Archifau Conwy wedi bod yn hanfodol er mwyn sicrhau bod eitemau treftadaeth Bodlondeb yn cael eu cadw’n ddiogel ar gyfer ein Sir. Mae cadw’r eitemau hyn yn helpu i gynnal hanes Conwy ar gyfer preswylwyr, ymwelwyr a chenedlaethau’r dyfodol. Edrychaf ymlaen at weld y darnau yn eu cartrefi newydd yn nhref Conwy.”

Mae Canolfan Ddiwylliant Conwy yn gartref i wasanaethau Amgueddfeydd ac Archifau’r sir, yn ogystal ag ardal lyfrgell Conwy, ynghyd ag arddangosfeydd treftadaeth sydd wedi’u gosod yn y silffoedd llyfrau i adlewyrchu hanes y sir.

Dewch draw i weld y ganolfan er mwyn darganfod y brodweithiau a mwy.

Gallwch weld ein horiau agor ar ein gwefan diwylliantconwy.com

Conwy Crossing Embroideries 2 1
Conwy Crossing Embroideries 1