Abergele
BETH MAE’N EI DDWEUD?
GWELL CREFFT NA GOLUD
Afon i annwfn: Y Gele
Gwaew yn clwyfo'r tirlun o oleu oleu
O Gastell Gwrych y gwele
oed amliw gelau oed imi gelor
Derwen a dyf rhwng dau lyn
Yn cysgodi awyr a glyn
Oni ddywedaf i gelwydd
O flodau Lleu y mae hyn
BETTER CRAFT THAN RICHES
River to underworld: The Gele
Spear pierce the land of light light
From Gwrych Castle one sees
the age of multicolour light on a bier
An oak tree grows between two lakes
sheltering sky and valley
Unless I tell a lie
From Lleu's flowers are these
BETH YW HYN? - Dysgwch fwy am yr hyn a ysbrydolodd y darn
Mae barddoniaeth Rhys yma yn mynd â ni i fyd y Mabinogi a’r cysyniad o ‘Annwn’, arallfyd lledrithiol, lleoliad ein byd digidol a’n cerdd - yn benodol stori Lleu, crefftwr a gaiff ei droi’n eryr a’i daro gan waywffon.
Mae wedi ei lleoli yn edrych dros y dref a’r afon o gastell Gwrych, gyda themâu yn ymwneud â tharddiad geiriau fel Gele sy’n ffurf dafodieithol o gelau sy'n golygu gwaywffon, yn disgrifio’r afon yn torri trwy’r tir.
Daw’r llinell “O flodau Lleu y mae hyn” o’r Mabinogi pan fo’r dewin yn galw ar Lleu sydd wedi ei glwyfo ar ffurf aderyn, ac “oed amliw gelau oed imi gelor” gan y bardd Cynddelw a ‘Gwell crefft na golud’ sy’n crynhoi ethos y rhai hynny a oedd yn gwerthu eu nwyddau drwy’r rhanbarth.
Y tu mewn i’r byd digidol rydym yn gweld totemau carreg ac ynddynt mae darluniau o gerfiadau gan bobl ifanc ac a gyflwynwyd wedi i ni alw ar bobl i gyflwyno eu hatgofion am eu tref enedigol.