Bae Colwyn
Sesiynau Ddoe a Heddiw
Fe wnaeth Tîm Tref Bae Colwyn gefnogi dwy sesiwn Ddoe a Heddiw, sy’n cael eu cynnal gan Grŵp Treftadaeth Bae Colwyn. Mae’r sesiynau hyn yn anelu i wneud hanes a threftadaeth Bae Colwyn yn fwy adnabyddus a hygyrch.
Gwefan Grŵp Treftadaeth Bae Colwyn
Er mwyn diogelu’r wybodaeth hanesyddol sydd wedi cael ei chasglu a’i dogfennu ar wefan Grŵp Treftadaeth Bae Colwyn, dyrannwyd cyllid i’w hail-ddylunio a’i diogelu at y dyfodol drwy adnewyddu ei thrwyddedau.
Podlediadau Cerddoriaeth yn y Bae
Creodd Bayside Radio bodlediad dwy raglen sy’n nodi hanes cerddoriaeth, adloniant a diwylliant poblogaidd yn ardal Bro Colwyn, gyda rhaglen arall yn archwilio dyfodol cerddoriaeth leol. Darlledwyd y podlediadau’n fyw ar Bayside Radio ond roeddent hefyd ar gael i Archifau Conwy a Grŵp Treftadaeth Bae Colwyn fel cyfle ‘capsiwl amser’.
Ap Llwybr Dychmygu
Gan ddefnyddio realiti estynedig, animeiddiad, ffilm a sain, mae’r ap hwn yn caniatáu i chi ddarganfod hanesion cyffrous ac ysbrydoledig o fewn treftadaeth leol Bae Colwyn. Penderfynodd Tîm Tref Bae Colwyn i ariannu diweddariadau ar gyfer yr ap, er mwyn iddo allu gweithredu yn unol â safonau heddiw a gyda’r gobaith y byddai modd ei ail-lansio yn y dyfodol.
Plac Porffor
Crëwyd yr ymgyrch Plac Porffor i wella’r gydnabyddiaeth ar gyfer merched nodedig yng Nghymru a rhoi Plac iddynt i nodi eu cyflawniadau a chadarnhau eu hetifeddiaeth yn hanes Cymru. Bu i Gymdeithas Hanesyddol Bae Colwyn gydnabod Ethel May Hovey am ei chyflawniadau a’i chyfraniad i’r dref, yn cynnwys ei gwaith gyda Rydal Penrhos, ei chefnogaeth tuag at raglen Llywodraeth Cymru yn annog mwy o ferched i fyd gwleidyddiaeth a’i dylanwad a’i chymorth â thwf gofal mamolaeth hygyrch.
Bydd y Plac yn cael ei ddadorchuddio ym mis Mehefin 2025 ar yr hen gartref mamolaeth Nant y Glyn. Rhoddwyd sgwrs gan Gemma Campbell (prif ymchwilydd y prosiect) ym mis Tachwedd 2024 ar fywyd a chyflawniadau Ethel ac i hysbysu’r cyhoedd y byddai’n cael ei chydnabod gan y pwyllgor plac porffor.
Goleuadau Colwyn
Yn ystod digwyddiad Goleuadau Colwyn ar 28 Tachwedd daeth sawl partner a digwyddiad ynghyd i greu dathliad Nadoligaidd.
Cynhaliodd NWAMI a Menter Iaith weithdai llusernau yn y gymuned cyn y digwyddiad er mwyn creu llusernau ar gyfer eu gorymdeithiau unigol ar y noson.
Fe wnaeth y Fforwm Busnes lansio siopa hwyr ar nos Iau yn swyddogol ac fe wnaeth Cyngor y Dref gynnal digwyddiad i gynnau’r goleuadau Nadolig gyda chyfle i gwrdd â Siôn Corn yng Nghanolfan Siopa Bayview.
Fe wnaeth TAPE Bae Colwyn hefyd adeiladu ar eu digwyddiad Lumiere o’r llynedd drwy gynnwys cyfres o ddioramau wedi’u goleuo mewn ffenestri siopau yn ogystal â’u prif animeiddiad, a gafodd ei lansio a’i ddangos bob nos Iau tan y Flwyddyn Newydd. Cyfrannodd Menter Iaith drwy greu animeiddiad Cymraeg eu hunain hefyd.
Bu i Bayside Radio ddarlledu’r digwyddiad yn fyw ac i orffen y noson roedd adloniant byw wedi’i ddarparu gan NIWAMI a Menter Iaith yn Ink, a oedd yn cynnwys y band Pys Melyn.