Conwy Culture CYM

Search website

Mae Gigs y Gaeaf yn ôl!

Byddwch yn rhan o Gigs y Gaeaf 2025!

Gan adeiladu ar y gweithgareddau Gigs y Gaeaf blaenorol, hoffem gomisiynu grwpiau cymunedol, sefydliadau a lleoliadau i gynnal cyfres o ddigwyddiadau cerddoriaeth fyw a gair llafar ar draws Sir Conwy.

Bydd y digwyddiadau hyn yn cynyddu mynediad i bobl Conwy at ddigwyddiadau byw rhad ac am ddim a chost isel.

Gallwch weld manyleb y galwad a lawrlwytho'r ffurflen gais isod.

Unrhyw gwestiynau? E-bostiwch creu@conwy.gov.uk

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd 08/09/25

#UKSPF #CreuConwy #GigsyGaeaf

Mae Gigs y Gaeaf yn un o brosiectau Strategaeth Ddiwylliannol Creu Conwy, a ariennir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Creu Conwy Gigs y Gaef Winter Sounds 2025 Specification CYM

pdf, 187.722 KB

Creu Conwy Gigs y Gaef Winter Sounds 2025 Specification ENG

pdf, 187.181 KB

Invitation to Quote Form Creu Conwy Gigs y Gaeaf Winter Sounds cym final

word, 781.312 KB

Invitation to Quote Form Creu Conwy Gigs y Gaeaf Winter Sounds eng final

word, 749.056 KB

Cyfle cyffrous i gyflawni prosiectau diwylliannol yng Nghonwy!

Ar ôl dyfarnu rhywfaint o gyllid y gronfa ffyniant gyffredin yn llwyddiannus, rydym yn falch o ail-ryddhau gweddill y gronfa a ddyrannwyd i Dîm Tref Conwy.

Rydym yn croesawu ceisiadau o hyd at £3,000 erbyn hanner dydd, ddydd Mawrth 26 Awst.

Gan weithio’n agos gyda Thimau Tref Creu Conwy, mae’r comisiwn hwn yn cynnig cyfle i gael effaith cadarnhaol yng Nghonwy.

Dewch o hyd i'r pecyn cais isod!

Am unrhyw ymholiadau cysylltwch a - creu@conwy.gov.uk

Mae’r cyfle hwn yn cael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

#UKSPF #CreuConwy

Welsh Conwy Round 2 Creu Conwy Town Teams 2025 Invitation to Quote Specification cy

word, 439.296 KB

Conwy Round 2 Creu Conwy Town Teams 2025 Invitation to Quote Specification

word, 439.296 KB

Welsh Invitation to Quote Form Creu Conwy Town Teams eng cy 1

word, 501.487 KB

English Invitation to Quote Form Creu Conwy Town Teams eng 1

word, 606.72 KB

AGOR DY LYGAIDARDDANGOSFA GALWAD-AGORED NEWYDD GAN ŴYL FFOTOGRAFFIAETH NORTHERN EYE

📅 Dyddiadau’r arddangosfa: 03–31 Hydref 2025

📍Bae Colwyn, Gogledd Cymru

🕛 Dyddiad cau i gyflwyno: Hanner nos, 31 Awst 2025

💷 Ymgeisio am ddim | £5 am bob llun sy’n cael ei ddewis (i dalu am argraffu a chynhyrchu)

Mae Gŵyl Ffotograffiaeth Northern Eye yn hynod falch o gyhoeddi ei galwad agored gyntaf erioed ar gyfer ffotograffwyr – a byddai’n wych eich gweld chi’n rhan ohoni.

Yn cyflwyno AGOR DY LYGAID: arddangosfa grŵp gyffrous newydd sbon yn dathlu ffotograffiaeth yn ei holl ffurfiau, a’r ffyrdd unigryw rydym i gyd yn gweld y byd.

Galwad agored sy’n eich rhoi chi wrth galon yr ŵyl.

Am fanylion llawn ewch i - Galwad Agored