Conwy Culture CYM

Search website

Roedd Dychmygu Bae Colwyn yn Gynllun Lle Gwych Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, a arweiniwyd gan Grŵp Llywio traws-sector. Cafwyd cyllid partneriaeth ychwanegol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Tref Bae Colwyn ac Ardal Gwella Busnes Colwyn ond mae bellach wedi dod i ben. Cerfluniau wedi’u creu gan Theatr Byd Bychan.

Community uke group launch
Lloches ar bromenâd Rhos gyda llun o ddynes mewn salon wedi ei osod tu ôl i fainc
Creu gemwaith gan ddefnyddio offer llaw mewn gweithdy
Gweithiwr metel mewn gweithdy gydag offer a darn o siandelïer ar y bwrdd
Pobl ifanc yn defnyddio setiau pen rhith-wirionedd

Ble? Roedd ardal y prosiect yn cynnwys Hen Golwyn, Bae Colwyn, Llandrillo-yn-Rhos a Mochdre.

Pryd? Ionawr 2019 - Mawrth 2022 (wedi’i ymestyn o fis Mawrth 2021 oherwydd COVID-19).

Beth? Gweledigaeth y prosiect oedd gosod “Diwylliant, creadigrwydd a chymuned wrth galon Bae Colwyn” drwy:

• Fapio, cofnodi a dathlu asedau ac adnoddau diwylliant a threftadaeth presennol.

• Datblygu a chryfhau cysylltiadau diwylliant a threftadaeth gyda sefydliadau’r trydydd sector

• Ysbrydoli a chysylltu pobl drwy raglen atyniadol o weithgareddau a digwyddiadau treftadaeth a diwylliant

• Cefnogi diwydiannau creadigol drwy gynnig hyfforddiant, uwchsgilio, rhwydweithiau, cefnogaeth cyfoedion a chyfleoedd darparu.

• Datblygu strategaeth diwylliant a threftadaeth a’i wreiddio o fewn sefydliadau, cynlluniau a strategaethau lleol.

Mae'r crynodeb hwn yn cynnig cipolwg o'r gweithgarwch a gyflwynwyd a rhai gwersi allweddol o'r prosiect.

Imagine Colwyn Bay in Summary

pdf, 1.154 MB

Dychmygu Bae Colwyn Yn Gryno

pdf, 1.168 MB

Dilynwch y ddolen isod ar gyfer dogfen werthuso lawn Dychmygu Bae Colwyn.

Imagine Colwyn Bay Project Evaluation Report

pdf, 4.12 MB