Conwy Culture CYM

Search website

Tu Hwnt i Sefydliad Affricanaidd Bae Colwyn - Datganiad i’r Wasg

Mae Gwasanaeth Amgueddfeydd Conwy yn falch o gyflwyno paentiad newydd pwysig yn Llyfrgell Bae Colwyn gan yr artist Mfikela Jean Samuel.

Yn 2024, dechreuwyd gwaith ar y prosiect ‘Tu Hwnt i Sefydliad Affricanaidd Bae Colwyn’ a gynhyrchwyd ar y cyd gan Mfikela Jean, artist o Gamerŵn sy’n byw yng Ngogledd Cymru, a Gwasanaeth Amgueddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Roedd y prosiect, a ariannwyd drwy Gymdeithas yr Amgueddfeydd Annibynnol a Llywodraeth Cymru, yn caniatáu i blant ysgol lleol ddarganfod stori anhysbys yn hanes Pobl Ddu o Sir Conwy drwy weithdai celf creadigol a sesiynau rhyngweithiol dan arweiniad Mfikela yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy.

Creodd Mfikela baentiad mewn ymateb i hanes Tŷ Congo / Sefydliad Affricanaidd Bae Colwyn (1889-1912) sy’n amlygu’r cysylltiadau rhwng Cymru a’r anawsterau ehangach am annibyniaeth yn Affrica, gan gynnwys cyswllt rhyfeddol â’r ymladdwr rhyddid Nelson Mandela. Teitl y paentiad yw ‘Pontio Cyfandiroedd: Sefydliad Affricanaidd Bae Colwyn ac Athro Mandela’.

Mae’r paentiad yn darlunio’r Parchedig William Hughes, cenhadwr a Bedyddiwr a sefydlodd Tŷ Congo / y Sefydliad Affricanaidd, sef canolfan addysgol i fyfyrwyr Affricanaidd. Aeth llawer o’r bobl ifanc a astudiodd yma ymlaen i fod yn arweinwyr arwyddocaol mewn gwledydd yn Affrica. Dangosir hefyd Davidson Don Tengo Jabavu, myfyriwr o Dde Affrica a astudiodd yn y Sefydliad ac a ddaeth yn ddiweddarach yn athro ac yn fentor i Nelson Mandela. Y portread olaf yw Nelson Mandela, arlywydd cyntaf De Affrica.

Cyflwynwyd plant ysgol lleol ym Mae Colwyn i’r cyswllt pwysig hwn rhwng Cymru ac Affrica drwy waith Mfikela. Dysgodd y plant fod yr hanes hwn yn rhan o’u ‘cynefin’, sy’n elfen o’r cwricwlwm newydd i Gymru. Roedd y sesiynau’n annog y dosbarthiadau i gydnabod a dathlu amrywiaeth yn eu cymunedau.

Roedd treftadaeth arbennig Mfikela Jean Samuel yn caniatáu i’r plant brofi ei safbwynt unigryw drwy ei waith celf, gan fyfyrio ar bobl a symbolau o Gymru ac Affrica. Cafodd y dosbarthiadau gyfle i fynd â phaentiad mawr a grëwyd yn ystod y gweithdy yn ôl i’r ysgol, gan helpu i sicrhau etifeddiaeth y prosiect ar gyfer plant cenedlaethau'r dyfodol.

Dywedodd Mfikela Jean Samuel: “Fe wnes i gymryd rhan yn y prosiect hwn fel hwylusydd creadigol ac rydw i’n dychwelyd yn fodlon iawn. Nid oedd y gwaith yn heriol oherwydd roedd yn gysylltiedig â fy niddordeb a rhoddodd gyfle i mi gyfrannu ychydig bach at gymuned (gogledd Cymru) yr wyf bellach yn ei galw yn gartref. Fy hoff ran o’r prosiect oedd y gweithdy gyda’r plant. Fe wnaeth brwdfrydedd ac egni cadarnhaol y plant sicrhau llwyddiant y prosiect. Fe wnaeth eu cwestiynau, eu sylwadau a’u pryderon roi sicrwydd i mi eu bod wedi dysgu o’r prosiect.”

Wrth siarad am y prosiect a’i lwyddiant, dywedodd Rheolwr Conwy Gynhwysol CBSC: “Mae gwaith Mfikela yn ein helpu i ddeall yr hanes sydd rhyngom, gan ein gwneud yn ddinasyddion gwell a mwy gwybodus. Mae’n dangos sut y gallwn elwa o weld y byd mewn ffordd ehangach ac yn amlygu pwysigrwydd diwylliant a chysylltiadau. Mae’r prosiect hwn wedi bod yn werthfawr i bobl ifanc Conwy, ac mae’r gwaith celf yn darparu cyfle i bobl ddysgu, gan gefnogi ein nod i greu Conwy gynhwysol.”

Dywedodd yr Athro Charlotte Williams OBE, Cadeirydd y Gweithgor Gweinidogol ‘Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin: Pobl o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y cwricwlwm newydd’ a phreswylydd Conwy: “Mae’r storïau hyn am hanes pobl ddu lleol yn bwysig i holl ddisgyblion a dysgwyr Cymru ac yn ein hatgoffa ni fod hanes pobl ddu yn rhan o hanes Cymru. Mae’r paentiad hwn yn ymgorffori’r cysylltiadau hirsefydlog rhwng Cymru a’r byd”

Gellir gweld y paentiad yn llyfrgell Bae Colwyn, lleoliad addas yn agos at yr hanes a wnaeth ysbrydoli’r prosiect ac Adeilad y Sefydliad ar Ffordd Nant-y-Glyn a sefydlwyd gan y Parchedig William Hughes.

Roedd Hughes hefyd yn un o sylfaenwyr llyfrgell Bae Colwyn, roedd yn rhan o’r Pwyllgor Gweithredol i adeiladu llyfrgell ar y safle hwn i gofnodi coroni Brenin Edward VII.

Rydym yn croesawu pawb i ddod i weld y gwaith celf pwysig hwn.

Gweler oriau agor Llyfrgell Bae Colwyn yma - llyfrgelloeddconwy.com

Gallwch gysylltu â Gwasanaeth Amgueddfeydd Conwy yma - creu@conwy.gov.uk