Conwy Culture CYM

Search website

Pwyllgor Aberconwy x Gigs y Gaeaf!

Dewch i fwynhau cyngerdd Nadoligaidd-ei-naws yng nghwmni Mared a'i band. Bydd hi'n cael ei chefnogi gan Alis Glyn a bydd ambell i eitem gan rai o ddisgyblion Ysgol y Creuddyn.

Mared a'r Band

Dydd Gwener Rhagfyr 5

6:30 - 10pm

Eglwys Santes Fair, Conwy

Archebwch eich tocynnau yma!

Neu gallwch gasglu tocyn papur o Siop Wyn, Conwy!

Nid oes cost i archebu tocyn gan fod y digwyddiad AM DDIM, ond byddwn yn gofyn yn garedig am roddion ar y drws i fynd tuag at y gost o drefnu digwyddiad o'r fath. Gwerthfawrogwn unrhyw gyfraniad.

Mae Gigs y Gaeaf yn un o brosiectau Strategaeth Ddiwylliannol Creu Conwy, a ariennir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.