Conwy Culture CYM

Search website

Amdani! Conwy

Chi Ydi Diwylliant Conwy! | You Are the Culture of Conwy!

Mae cyllid ‘Spirit of 2012’ i Amdani! Conwy bellach wedi dod i ben. Roedd y prosiect, a oedd yn bartneriaeth gyda Gwasanaethau Gwirfoddol Cymunedol Conwy (CGGC) a Chelfyddydau Anabledd Cymru, yn arloesi gyda dulliau cynhwysol o wirfoddoli. Cafodd cyfanswm o 80 o wirfoddolwyr eu recriwtio dros y ddwy flynedd ac roedd yr adborth gan croesawyr a gwirfoddolwyr yn hynod o gadarnhaol.

Mae’r gwersi a ddysgwyd o'r prosiect yn cael eu defnyddio ac mae prosiectau gwirfoddoli cynhwysol yn cael eu harchwilio gyda Gwasanaeth Gwirfoddol Cymunedol Conwy ar gyfer y dyfodol. Gellir gweld ffilm ddylanwadol y prosiect yma:

‘Mae gwirfoddoli’n wych. Rydych yn dysgu llawer o bethau ac mae’n cynnal eich cymhelliant o hyd. Mae holl staff Amdani yn dda oherwydd dydyn nhw byth yn eich siomi nac yn eich gadael chi allan – dwi’n gwybod ei bod hi’n anodd am wahanol resymau ond un o rannau pwysicaf eich bywyd yw annibyniaeth.’
Gwirfoddolwr Amdani! Conwy