Gweler yr adnodd ‘Darganfod Storfa Amgueddfa Canolfan Ddiwylliant Conwy’ newydd yma
Gwybodaeth Ychwanegol:
Yn ystod 2024-2025, derbyniodd Gwasanaeth Amgueddfeydd Conwy gyllid a chefnogaeth gan GEM Cymru i weithio gyda mentor addysg i greu adnodd newydd o’r enw ‘Darganfod Storfa Amgueddfa Canolfan Ddiwylliant Conwy’.
Ein mentor oedd Lorna Kernahan o Keystone Heritage. Fe wnaethom ni edrych ar gynnig dysgu presennol Canolfan Ddiwylliant Conwy, a chynnal holiadur gydag ysgolion i weld y ffordd orau y gallai Canolfan Ddiwylliant Conwy gefnogi cwricwlwm newydd Cymru. Nodwyd yn yr adborth bod costau teithio’n ffactor mawr o ran gallu ysgolion i fynychu safleoedd treftadaeth fel Canolfan Ddiwylliant Conwy ac y byddent yn gwerthfawrogi rhai adnoddau ar-lein.
Cynigodd Lorna y dylid datblygu adnodd cynllun gwers a chyflwyniad PowerPoint rhyngweithiol y gall ysgolion eu defnyddio yn eu hystafelloedd dosbarth. Roedd y dull hwn yn caniatáu ar gyfer ymestyn cyrhaeddiad eitemau o’n storfa a’u cyflwyno i leoliadau addysgol heb iddynt orfod gadael yr adeilad. Yn ogystal, roedd yn rhoi mynediad at eitemau yn y storfa nad ydynt fel arfer yn cael eu harddangos.
Fe wnaethom archwilio themâu o fewn casgliad Amgueddfa Conwy a nodi ystod o eitemau’n gysylltiedig â’r cysyniadau o le, digwyddiadau arwyddocaol, a gwrthrychau dirgel hwyliog. Mae’r eitemau hyn yn amrywio o gyfnod cyn hanes i’r cyfnod presennol (asgwrn cyfrif wedi’i wneud o asgwrn carw a chyfrifiadur i enwi dim ond rhai o’r gwrthrychau)
Talodd y cyllid gan GEM am ffotograffydd a dylunydd graffeg i dynnu lluniau proffesiynol o’r gwrthrychau ac i ddylunio’r adnodd PowerPoint ar gyfer ysgolion, yn ogystal â chreu cynllun gwers.
Rydym yn gobeithio y bydd yr adnodd o gymorth i ledaenu’r gair am y gwasanaeth amgueddfa, ac yn annog ysgolion i ymgysylltu â ni ynglŷn ag ymholiadau neu geisiadau penodol, yn enwedig mewn perthynas â phwnc newydd y Cwricwlwm i Gymru, Cynefin a hanes lleol.
Diolch yn fawr iawn i GEM Cymru.
Gweler yr adnodd ‘Darganfod Storfa Amgueddfa Canolfan Ddiwylliant Conwy’ newydd yma
Gwybodaeth Ychwanegol: