Llanrwst
WHAT DOES IT SAY?
Rhowch eich ffydd yn y trigolion!
Ffair gytuno
Ffair i ffeirio
Ffair ddadeni
Ffair gyflogi
Ffair bleser
Trust the locals!
Fair to agree
Fair to barter
Fair renaissance
Fair Employment
Blessing fair/fair pleasure
BETH YW HYN? - Dysgwch fwy am yr hyn a ysbrydolodd y darn
Gan gyfuno’r Saesneg a’r Gymraeg mewn modd chwareus, arddull y mae Rhys Trimble yn enwog amdano, mae gan ein prif ymadrodd ‘Trwst y Trigolion’ ystyr deublyg. Mae Trwst ei hun yn hen air Cymraeg na chaiff ei ddefnyddio bellach, sy’n golygu “gwneud sŵn” neu “stŵr”, felly gallai’r darn hwn olygu “sŵn / stŵr a phrysurdeb y trigolion, gan gyfeirio at y gymuned yn dod ynghyd yn y marchnadoedd / digwyddiadau lleol / gweithio’n galed. Yma hefyd, mae Rhys yn cyfuno’r gair Saesneg “Trust” a “rwst”, sill olaf y dref, a welir hefyd mewn enwau eraill sy’n gysylltiedig â Llanrwst, megis Sant Crwst a Bardd Crwst (mwy amdano ef yn fuan!)-
Mae’r farddoniaeth, wedi’i ysbrydoli gan atgofion y bobl leol, gyda nifer yn canolbwyntio ar atgofion melys o ddigwyddiadau cymunedol / marchnadoedd / gwyliau a ffeiriau o fewn sgwâr y dref a’r ardal gyfagos, yn ymgorffori ethos canolog - ‘Ymddiried yn y Trigolion’, i gynnal ysbryd y dref gweithio hanesyddol trwy ddigwyddiadau, dathliadau a masnach annibynnol gymunedol yn ystod ac ar ôl cyfnodau o anawsterau (megis Covid a’r Argyfwng Costau Byw). Mae’r natur rythmig, yn ogystal ag ysbryd y darn wedi’i ysbrydoli gan Fardd Crwst, sy’n cael ei ystyried yn un o’r baledwyr teithiol gorau olaf, wedi’i enwi ar ôl ei dref enedigol Llanrwst, a oedd yn canu am falchder y dosbarth gweithiol ac yn arbennig o boblogaidd gyda’r gymuned amaethyddol ar draws Cymru.
Mae’r arddull yn adlewyrchu'r dathliad / ysbryd carnifal hwn. Unwaith yr ydym i mewn yn y byd realiti estynedig, gallwn weld stondin marchnad traddodiadol yn Llanrwst, wedi’i droi i gêm carnifal, yn dangos nifer o atgofion wedi’u casglu, ac wedi’i ysbrydoli gan fwyd a diod o orffennol y trigolion!
MWY O STRAEON!
Atgofion, straeon am Llanrwst wedi eu casglu gan y gymuned: