LLENWI
Mae LLENWI yn brosiect arwyddion cyrchfan gwahanol. Gan ddefnyddio barddoniaeth, llythrennau hardd a realiti estynedig.
Rydym yn bwriadu rhannu straeon ac atgofion sydd wedi eu casglu gan dros 250 o aelodau o'r cyhoedd, yn fawr a bach, ochr yn ochr â hanes lleol anghofiedig fel y bydd y bobl sy'n adnabod y trefi orau yn cloddio'n ddwfn i hanfod y trefi hynny.
Bydd y prosiect hwn yn dod â byd realiti estynedig digidol Livi Wilmore a llythrennau hardd, traddodiadol Tomos Jones ynghyd i greu darnau pwysig o gelf yn Abergele, Bae Colwyn, Conwy, Llandudno a Llanrwst, a ddaw yn fyw wrth iddynt gael eu sganio gyda ffôn clyfar gan arddangos straeon o’r gymuned.
Rydym wedi comisiynu’r bardd cyfoes Rhys Trimble i greu gweithiau newydd yn seiliedig ar yr hyn y mae cyfranogwyr wedi ei rannu am eu trefi. Casglwyd hyn drwy 15 gweithdy ar baentio arwyddion, cerflunio 3D a barddoniaeth, yn ogystal â phecynnau gweithgaredd rhad ac am ddim ac estyn allan i’r gymuned ar y cyfryngau cymdeithasol a thu hwnt.
Edrychwch ar bob darn ac yna dewch yn ôl yma i ddysgu mwy am sut y daeth i fodolaeth!
Podlediad LLENWI
Gallwch wrando ar y penodau podlediad LLENWI isod, a gynhelir gan Simon o Bayside Radio!
Bu Simon yn cyfweld â’r artistiaid Livi Wilmore, Tomos Jones a’r bardd Dr Rhys Trimble a greodd y prosiect LLENWI!