Gwobr Bwrcasu Cymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru yr Eisteddfod Genedlaethol 2019
Mae’r gwaith celf hyn yn cael eu harddangos yn barhaol yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy.
Sefydlodd Cymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru y Wobr Bwrcasu gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol 2004. Bob blwyddyn, gan weithio gyda chyfyngiad o £2,000, mae’r pryniant wedi cael ei ddewis gan guradur yr amgueddfa/oriel leol, i fynd i’r casgliad hwnnw. Dewiswyd y gwaith hwn i gael eu harddangos yma gan Wasanaeth Diwylliant Conwy.
Bev Bell-Hughes: Cuddiedig:
Nid yw gwaith cerameg llaw cyffyrddol Bev Bell-Hughes yn ceisio dynwared natur, ond yn hytrach adleisio ei brosesau. Mae’n byw rhwng Conwy a Llandudno ac mae ei theithiau cerdded i archwilio traethau Deganwy a Morfa yn ei hysbrydoli i greu. Bob dydd, mae’n sylwi ar farciau wedi eu gadael yn y tywod gan y llanw, mathau gwahanol o wymon, erydiad wynebau caled cregyn neu greigiau, ac yn nes ymlaen, mewn hanner breuddwyd, bydd yn ffurfio syniad ar gyfer gwaith newydd. Mae’n gweithio’n uniongyrchol gyda’r clai heb syniad pendant ymlaen llaw, yn pinsio a gwasgu ac ychwanegu deunyddiau newydd nes bydd craterau a thyllau’n ymddangos. Mae’r canlyniad yn hoelio ac yn crynhoi gwir hanfod tirluniau arfordirol.
Glyn Baines: Harddwch didymhorau a Llonyddwch effro:
Mae Glyn Baines yn creu cyfansoddiadau greddfol o haenau o bapur wedi’i rwygo a’i baentio. Gan ddilyn yn nhraddodiad moderniaeth, nid oes gan ei waith unrhyw gysyniad na naratif – yn syml, maent yn barhad o’r traddodiad dynol o wneud marciau. Mae hyn yn gadael lle i chi, y sawl sy’n edrych arnynt, i chwilio am eich patrymau neu ystyr eich hun yn y gwaith.