Mawrth 2024
Ail-Ddychmygu Tŷ’r Congo / Y Sefydliad Affricanaidd: Safbwyntiau ar Sefydliad Affricanaidd Bae Colwyn, i’w chynnal yn Llyfrgell Bae Colwyn.
Mawrth 15fed 2024
Mae'r arddangosfa celf ac animeiddio, yn darparu lleisiau a safbwyntiau newydd ar y rhan bwysig hon o Hanes Pobl Dduon yng Ngogledd Cymru. Roedd yn ymdrech gydweithredol yn cynnwys plant a'r cymunedau o Ogledd Cymru a Chanol Affrica.
Allan ac o gwmpas: cyfred LHDTC+ - Rhywedd a rhywioldeb: creu lle diogel
Mawrth 25fed 2024
Mae Kayley yn gwnsler sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn arbenigo mewn gweithio gyda chleientiaid cwiar. Mae Kayley hefyd yn aelod o’r gymuned cwiar. Maen nhw’n gwirfoddoli ar gyfer grŵp ieuenctid LHDTC+, ac yn aelod o’r pwyllgor o wirfoddolwyr sy’n trefnu Balchder Gogledd Cymru.
Ymunwch â Kayley Roberts ar gyfer y gweithdy hwn wrth iddyn nhw siarad am sut i greu mannau diogel i ffrindiau a chydweithwyr LHDTCRA+ ddod allan, yn cynnwys sut i ddelio gyda beirniadaeth a beth i’w wneud os ydych chi’n gwneud camgymeriad.
Nodau’r gweithdy:
• Eich helpu chi i deimlo’n hyderus i greu gofod diogel i ffrindiau, teulu a chydweithwyr LHDTC+ ddod allan.
• Mynd yn ôl at y pethau sylfaenol, hepgor yr ystadegau a chadw at y pethau bob dydd
• Mynd y tu hwnt i wybodaeth PowerPoint ac i ddealltwriaeth ymarferol
Ariennir gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru.