Llyfrgell Conwy
Rydym wedi bod yn ein cartref newydd yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy ers iddi agor ym mis Rhagfyr 2019. Mae llyfrgell wedi bod yng Nghonwy ers 1864, a chyn i ni symud yn ddiweddar, roeddem yn y Neuadd Ddinesig ar Stryd y Castell.
Mae cynllun modern ac agored i’n llyfrgell newydd, gyda digon o heulwen a golau naturiol. Mae gennym arddangosfeydd treftadaeth a rhyngweithiol ymhlith y silffoedd llyfrau ac rydym yn rhannu’r lle gyda Gwasanaeth Archif y Sir a’r caffi Cantîn.
Mae ein croeso yr un mor gynnes y tu allan i’r adeilad hefyd, diolch i’n gardd synhwyraidd sy’n addas i bobl â dementia a chylch darllen.
Rydym yn llawer mwy na llyfrgell – rydym yn lloches, yn lle i ymlacio â llyfr da a phaned.
Yn Llyfrgell Conwy gallwch:
- Fwynhau mynediad am ddim at gyfrifiaduron cyhoeddus
- Mewngofnodi i Wi-Fi am ddim
- Argraffu, sganio neu lungopïo dogfennau
- Edrych drwy ein blychau Hanes Lleol
- Llogi ystafell gymunedol
- Dod â’ch teulu i lyfrgell y plant
- Mwynhau paned, cacen neu ginio blasus yn y caffi
- Cyfarfod â staff Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau’r Cyngor
Mae gennym hefyd ddigwyddiadau rheolaidd yn cynnwys:
- Amser stori i rai dan 5 oed
- Sesiynau blasu ar-lein
- Grŵp darllen
Mae gan y llyfrgell fynediad i’r anabl, Dolen Glyw, gwasanaeth Iaith Arwyddion Prydain a meddalwedd addysgol Boardmaker. Mae safleoedd bws gerllaw ar Town Ditch Road a Bangor Road. Mae’r maes parcio ar gyfer y Ganolfan Ddiwylliant ym Modlondeb, ac mae mannau parcio i ddeiliaid Bathodynnau Glas yng nghefn yr adeilad. Mae gennym doiledau cyhoeddus hefyd a chyfleusterau newid babanod.
Ein horiau agor yw: | |
---|---|
Dydd Llun | 9:30 a.m. - 5:00 p.m. |
Dydd Mawrth | 10:00 a.m. - 7:00 p.m. |
Dydd Mercher | 9:30 a.m. - 5:00 p.m. |
Dydd Iau | 9:30 a.m. - 5:00 p.m. |
Dydd Gwener | 9:30 a.m. - 5:00 p.m. |
Dydd Sadwrn | 10:00 a.m. - 1:00 p.m. |
Dydd Sul | Ar gau |
Rydym ar gau ar Wyliau Banc a’r dydd Sadwrn cynt |