Mae nythfeydd mwyaf y bilidowcar yn y DU i’w canfod ar Drwyn y Fuwch. Mae’r adar anhygoel yma i’w gweld yn aml ar hyd arfordir Bae Colwyn. Dydi adenydd yr adar ddim yn wrth-ddŵr ac felly fe allwch chi eu gweld yn aml yn sychu eu hadenydd trawiadol.
Daeth y syniad ar gyfer y gosodiad hwn gan fyfyriwr Coleg Llandrillo. Mae’r plastig ym mol y cerflun yn amlygu effaith plastig ar fywyd gwyllt. Yn anffodus mae 100,000 o famaliaid a chrwbanod a miliwn o adar y môr yn cael eu lladd bob blwyddyn oherwydd llygredd plastig yn ein moroedd (Llywodraeth y DU, 2018).