Conwy Culture CYM

Search website

Artistiaid a Gwneuthurwyr Conwy

Bydd arddangosfa ffotograffiaeth sy’n dathlu Artistiaid a Gwneuthurwyr Conwy, mewn partneriaeth â’r Academi Frenhinol Gymreig

Mae Artistiaid a Gwneuthurwyr Conwy mewn partneriaeth â’r Academi Frenhinol Gymreig yn awr yn arddangos yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy. Mae casgliad o bortreadau stiwdio gan Graham Hembrough, ffotograffydd o Gonwy ac aelod o’r Academi Frenhinol Gymreig, i’w gweld tan fis Hydref. Cadwch lygad am weithdai cysylltiedig gan artistiaid sydd wedi’u cynnwys.

Sefydlwyd yr Academi yn 1882 ac mae’n ganolfan ar gyfer rhagoriaeth artistig yng Nghymru. Mae’r oriel wedi’i lleoli yn hen Gapel Annibynnol Seion ar Crown Lane, Conwy.

Mae casgliad o bortreadau stiwdio gan y ffotograffydd o Gonwy, Graham Hembrough, yn annog ymwelwyr i wneud cysylltiad a meithrin dealltwriaeth well rhwng y gwaith celf a welir mewn arddangosfeydd a’r crëwr, gan ‘roi wyneb a lle i enw’r artist’.

Gwahoddwyd aelodau o’r Academi sy’n byw yn Sir Conwy i gymryd rhan yn y prosiect ac rydym ni’n ddiolchgar iawn iddyn nhw am eu cydweithrediad.

Comisiynwyd ‘Artistiaid a Gwneuthurwyr Conwy’ gan Wasanaeth Diwylliant Conwy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy mewn partneriaeth â’r Academi gyda grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Meddai Graham Hembrough am y gwaith, “Roeddwn i’n ymwybodol bod ymweld â gweithfannau artistiaid (a thynnu lluniau ohonyn nhw) yn gallu cael ei ystyried fel tarfu ar ofod preifat personol. Yn y fan hyn mae artistiaid yn mynegi eu hunain yn greadigol, gyda gwaith ar y gweill nad ydi’r cyhoedd i fod i’w weld gan ei fod yn broses sy’n esblygu ac yn datblygu i greu gwaith sydd, yn y diwedd, yn briodol ac wedi’i ddatrys i’w rannu a’i weld gan eraill. I rai, mae’r gofod yma yn ddihangfa neu’n hafan sy’n gwrthod ymyrraeth o’r tu allan.”

Lluniau o gweithiau celf
Dyn hefo cyfarpar camera.