Conwy Culture CYM

Search website

Llyfrgell Conwy

Rydym wedi bod yn ein cartref newydd yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy ers iddi agor ym mis Rhagfyr 2019. Mae llyfrgell wedi bod yng Nghonwy ers 1864, a chyn i ni symud yn ddiweddar, roeddem yn y Neuadd Ddinesig ar Stryd y Castell.

Mae cynllun modern ac agored i’n llyfrgell newydd, gyda digon o heulwen a golau naturiol. Mae gennym arddangosfeydd treftadaeth a rhyngweithiol ymhlith y silffoedd llyfrau ac rydym yn rhannu’r lle gyda Gwasanaeth Archif y Sir a’r caffi Cantîn.

Mae ein croeso yr un mor gynnes y tu allan i’r adeilad hefyd, diolch i’n gardd synhwyraidd sy’n addas i bobl â dementia a chylch darllen.

Rydym yn llawer mwy na llyfrgell – rydym yn lloches, yn lle i ymlacio â llyfr da a phaned.

Yn Llyfrgell Conwy gallwch:

  • Fwynhau mynediad am ddim at gyfrifiaduron cyhoeddus
  • Mewngofnodi i Wi-Fi am ddim
  • Argraffu, sganio neu lungopïo dogfennau
  • Edrych drwy ein blychau Hanes Lleol
  • Llogi ystafell gymunedol
  • Dod â’ch teulu i lyfrgell y plant
  • Mwynhau paned, cacen neu ginio blasus yn y caffi
  • Cyfarfod â staff Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau’r Cyngor

Mae gennym hefyd ddigwyddiadau rheolaidd yn cynnwys:

  • Amser stori i rai dan 5 oed
  • Sesiynau blasu ar-lein
  • Grŵp darllen

Mae gan y llyfrgell fynediad i’r anabl, Dolen Glyw, gwasanaeth Iaith Arwyddion Prydain a meddalwedd addysgol Boardmaker. Mae safleoedd bws gerllaw ar Town Ditch Road a Bangor Road. Mae’r maes parcio ar gyfer y Ganolfan Ddiwylliant ym Modlondeb, ac mae mannau parcio i ddeiliaid Bathodynnau Glas yng nghefn yr adeilad. Mae gennym doiledau cyhoeddus hefyd a chyfleusterau newid babanod.

Cysylltu â Ni

Town Ditch Road

Conwy

LL32 8NU

Ffôn: 01492 576089

E-bost: llyfrgell.conwy.@conwy.gov.uk

Ein horiau agor yw:
Dydd Llun9:30 a.m. - 5:00 p.m.
Dydd Mawrth10:00 a.m. - 7:00 p.m.
Dydd Mercher9:30 a.m. - 5:00 p.m.
Dydd Iau9:30 a.m. - 5:00 p.m.
Dydd Gwener9:30 a.m. - 5:00 p.m.
Dydd Sadwrn10:00 a.m. - 1:00 p.m.
Dydd SulAr gau
Rydym ar gau ar Wyliau Banc a’r dydd Sadwrn cynt