Ystafell Gymunedol
Gallwch archebu’r ystafell gyfarfod gymunedol ar gyfer eich digwyddiad.
Yn amodol ar ganllawiau’r llywodraeth a chyfyngiadau ar nifer y bobl sy’n cael cyfarfod dan do, mae’r dewisiadau canlynol ar gael:
- seddi cynhadledd/theatr i hyd at 56 o bobl
neu
- byrddau a chadeiriau i hyd at 35 o bobl
neu
- gellir rhannu'r ystafell yn 2 ystafell lai, gyda byrddau i hyd at 15 o bobl ym mhob un
Mae gwres dan y llawr yn yr ystafell a llawr coed. Cysylltwch â Llyfrgell Conwy am brisiau a thelerau ac amodau. Pan fyddwch wedi archebu’r ystafell, mae pecynnau arlwyo ar gael gan y caffi Cantîn.