Conwy Culture CYM

Search website

Sut i gyrraedd Canolfan Ddiwylliant Conwy

Unnamed

Dyma lun o Ganolfan Ddiwylliant Conwy o’r tu allan.

Mae’r ganolfan yn nhref Conwy.

Gallwch gyrraedd yno gyda char, bws neu drên.

2jpg

Mae bws rhif 5 Arriva o Fangor i Landudno yn stopio y tu allan i’r ganolfan bob 10 munud.

3

Gallwch deithio ar fysiau Arriva eraill yn ogystal megis bysiau 27 a 14 o ganol Conwy sydd ond nepell i ffwrdd.

Mae bws rhif 19 hefyd yn teithio heibio’r ganolfan i’ch cludo i Lanrwst ond yn llai aml na’r gwasanaethau bws eraill.

5

Dydy’r orsaf drenau yng nghanol tref Conwy ddim yn bell o gwbl. Fodd bynnag, nid yw’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn.

Gorsaf drenau Cyffordd Llandudno yw’r orsaf agosaf sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn.

4

Mae yna dri lle parcio i bobl anabl yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy.

Dim ond hyn a hyn o lefydd parcio sydd yn nhref Conwy.

6

Mae yna rywfaint o lefydd parcio ym Maes Parcio Bodlondeb.

Mae’n agos i Swyddfeydd y Cyngor.

Mae yna lwybr o’r maes parcio sy’n arwain at Ganolfan Ddiwylliant Conwy drwy Barc Bodlondeb.

Sut i gyrraedd Canolfan Ddiwylliant Conwy

7

Mae Canolfan Ddiwylliant Conwy ar gyrion Waliau Tref Conwy.

Mae’n bosibl y clywch chi sŵn traffig. Fe fydd arogl glaswellt ffres a natur yn deillio o fan gwyrdd cyfagos hefyd.

8

Mae yna ddau groesfan i gerddwyr ar gyrion y dref ar Ffordd Bangor a Ffordd Town Ditch.

9

Mae yna rywfaint o stepiau yn arwain o’r llwybr ar Ffordd Town Ditch tua mynediad blaen y ganolfan.

10

Mae esgynfa i’r chwith o’r grisiau ar gornel Ffordd Bangor.

Mae yna giatiau llwyd tywyll y bydd angen ichi deithio o’u hamgylch ger brig a gwaelod yr esgynfa.

11

Mae yna fapiau safle a chanllawiau i gyd-fynd â’r holl gyfleusterau y tu allan i’r ganolfan er mwyn eich helpu i ganfod eich ffordd.

12

Mae dau set o ddrysau awtomatig ger mynedfa’r ganolfan a fydd yn eich tywys i’r prif gyntedd.

13

Mae’r Ardd Synhwyraidd y tu ôl i’r ganolfan, ger y mannau parcio i bobl anabl.

14

Os ydych chi’n dod i ddigwyddiad yn y ganolfan, gallwch drefnu gyda threfnydd y digwyddiad eich bod yn dod i mewn drwy’r drysau i’r gofod Celfyddydau a Chymuned, sydd union heibio’r Ardd Synhwyraidd.

Mae’r drysau hyn gyferbyn â’r amffitheatr carreg fechan.

15

Caiff y drysau hyn eu hagor gyda llaw gan staff y digwyddiad ac maen nhw’n eithaf trwm.

Mae yna fymryn o ysgafell ar ffrâm y drws felly mae’n bosibl y byddwch chi’n teimlo cnoc ysgafn pan fyddwch chi’n dod i mewn os ydych chi’n defnyddio cadair olwyn.

Disgrifiad o Ganolfan Ddiwylliant Conwy

16

Y fynedfa

Mae’r prif fynedfa i’r chwith o Gaffi Cantîn yn y ganolfan ddiwylliant.

Pan fyddwch chi’n dod i mewn i’r ganolfan, mae’n bosibl y byddwch chi’n clywed sŵn ac yn arogli arogleuon y caffi wrth iddyn nhw baratoi coffis, symud platiau a chwpanau a choginio bwyd ar gyfer y cwsmeriaid.

17

Dyma’r fynedfa. Mae yna wahanol arddangosiadau o bryd i’w gilydd.

18

Y Cantîn

Dyma’r Cantîn. Gallwch brynu bwyd a diod yma. Mae yna ddigonedd o fyrddau a chadeiriau yma a gallwch eistedd y tu mewn neu’r tu allan os ydy’r tywydd yn ffafriol.

Weithiau os ydy’r drysau ar agor fe fyddwch chi’n teimlo drafft oer trwy’r agoriad.

19

Mae yna dai bach cyhoeddus yn y Cantin ac fe gewch chi eu defnyddio’n rhad ac am ddim.

Mae yna dai bach ar wahân i ddynion a merched. Mae yna hefyd dŷ bach neillryw sy’n addas i ddefnyddwyr cadair olwyn a chyfleusterau newid babanod.

20

Mae yna ganllaw i’ch helpu i godi oddi ar y tŷ bach.

21

Y llyfrgell

Os ewch chi’n ôl at y brif fynedfa a mynd yn eich blaen drwy’r set nesaf o ddrysau awtomatig fe gyrhaeddwch chi’r llyfrgell.

22

Os ewch chi yn eich blaen fe welwch chi’r brif ddesg ar eich dde lle bydd aelod o staff yn gweithio fel arfer.

23

Gyferbyn â’r brif ddesg, mae yna ddrysau gwydr sy’n arwain at yr ystafell chwilio archifau lle mae pobl yn cyflawni gwaith ymchwil.

24

Bydd y staff yn agor y drysau os ydych chi’n dymuno dod i mewn ac mae digonedd o le ar gyfer cadair olwyn.

25

Mae pobl yn dod yma i ddarllen llyfrau ac i ddefnyddio’r cyfrifiaduron.

Mae yna ddetholiad o seddi meddal, desgiau a silffoedd llyfrau ym mhob cwr o’r llyfrgell.

Mae’n bosibl y byddwch chi’n clywed pobl yn siarad, yn teipio ar y bysellfyrddau a sŵn clicio’r llygod cyfrifiadur.

26

Mae yna le chwarae i blant yma hefyd. Felly, mae’n bosib y clywch chi sŵn plant yn chwarae, yn canu ac yn mwynhau sesiynau stori.

Mae’n bosibl y clywch chi sŵn llyfrau’n cael eu gosod ar silffoedd a byrddau hefyd.

27

Mae yna ddrws i’r dde o’r man chwarae i blant sy’n arwain at yr ardal staff.

28

Mewn argyfwng, gallai’r staff eich tywys i lawr y coridor sy’n eich arwain at ddau dŷ bach sy’n addas i ddefnyddwyr cadair olwyn.

29

Y Gofod a Chymunedol

Yn eich blaen ac i’r dde o’r brif ddesg, mae mynedfa’r Gofod Celfyddydau a Chymuned.

Mae’n ddrws sy’n agor gyda llaw ond fe gaiff ei hagor cyn cychwyn unrhyw ddigwyddiad.

Os ydych chi fymryn yn hwyr, gallwch ofyn i aelod o staff eich gadael i mewn os oes angen help arnoch chi gyda’r drws

30

Mae’r Gofod Celfyddydau a Chymuned yn ystafell fawr gyda lloriau pren a goleuadau cysurus.

Mae yna hefyd ffenestri enfawr sy’n caniatáu peth wmbreth o olau dydd (pan mae’n braf)

31

Mae cynllun yr ystafell hon yn newid. Weithiau bydd cadeiriau gwyrdd wedi’u gosod mewn rhesi.

Ar adegau eraill mae byrddau a chadeiriau wedi’u gosod ar gyfer gweithdai.

32

Mae yna lawer o gelf ar y wal gan artistiaid a chymunedau.

Mae’r rhain yn newid yn rheolaidd.

33

Mae yna sgrin y gallwch ei ddefnyddio ar gyfer cyflwyniadau.

Mae yna hefyd gamera gwe os hoffech chi ffrydio’ch digwyddiad yn fyw.

Gofynnwch i’r tîm os oes angen cymorth arnoch i drefnu hyn.

Mae Canolfan Ddiwylliant Conwy yn le cyfeillgar lle mae croeso i bawb. Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch i allu cyrraedd yma, cysylltwch gyda nhw drwy godi’r ffôn neu eu e-bostio:

Rhif ffôn

Archifau Canolfan Ddiwylliant Conwy: 01492 577550

Llyfrgell Canolfan Ddiwylliant Conwy: 01492 576089

E-bost

archifau.archives@conwy.gov.uk