Ystafell Gymunedol
Gallwch archebu’r ystafell gyfarfod gymunedol ar gyfer eich digwyddiad.
Mae’r ystafell gymunedol yng Nghanolfa Ddiwylliant Conwy ar gael i’w llogi.
Mae’r dewisiadau canlynol ar gael:
- seddi cynhadledd/theatr i hyd at 56 o bobl
- byrddau a chadeiriau i hyd at 35 o bobl
Gellir rhannu'r ystafell yn 2 ystafell lai, gyda byrddau i hyd at 15 o bobl ym mhob un.
Prisiau:
- Ystafell Fach £11
- Ystafell Fawr £13
Mae gwres dan y llawr yn yr ystafell a llawr coed. Cysylltwch â Llyfrgell Conwy er mwyn gwirio argaeledd ac ar gyfer y telerau ac amodau. Pan fyddwch wedi archebu’r ystafell, mae pecynnau arlwyo ar gael gan y caffi Cantîn.