Still Light
Arddangosfa, 'Still Light' gan Lorraine Seren Catterall yn Llyfrgell Llandudno.
'Still Light' gan Lorraine Seren Catterall
Arlunydd o ogledd Cymru sydd â chariad oes am arlunio sydd yn ffafrio paentio olew. Mae Lorraine wrth ei bodd ag effeithiau golau ar lun. Paentio mewn stiwdio mae hi’n bennaf, yn fwy na hapus yn treulio sawl awr ar ei phen ei hun gyda’i gwaith. Ond pan mae’r tywydd yn caniatáu, mae hi hefyd yn mwynhau paentio tu allan gyda’i chyfeillion sydd hefyd yn arlunwyr. Mae ei gwaith felly yn croesi sawl genre ac mae’n cynnwys tirweddau, bywyd llonydd, pobl ac anifeiliaid.
Fe astudiodd Lorraine Gelfyddyd Gain gyda Phrifysgol Bangor rhwng 2003 a 2006 a oedd yn brofiad anhygoel y bydd hi’n ei werthfawrogi am byth. Roedd cyfnod mewn prifysgol arall yn llai cadarnhaol gan arwain iddi ymarfer celf yn annibynnol. Tan yn ddiweddar, gweithgaredd tawel, pleserus a phreifat oedd hyn. Fodd bynnag, y llynedd, fe benderfynodd arddangos ei gwaith ac mae hi bellach yn rhannu ei phaentiadau gyda phobl eraill.
Prif gymhelliad Lorraine dros baentio yw ceisio dal harddwch golau a sut mae’n trawsnewid popeth y mae’n ei gyffwrdd. Pan mae hi’n paentio, mae’n ei hatgoffa i fod yn werthfawrogol o’r byd anhygoel rydym ni’n byw ynddo. Ei dymuniad drwy ddangos ei gwaith yw y bydd yn rhoi moment o bleser i’r gwyliwr o weld harddwch bywyd, hyd yn oed yr elfennau dyddiol, diflas.