Conwy Culture CYM

Search website

Gwybodaeth am Barcio a Mynediad

Os oes gennych fathodyn anabledd, gallwch barcio yn y Ganolfan Ddiwylliant.

Fel arall, fedrwch chi ddefnyddio Maes Parcio Clwb Criced Conwy (y maes parcio bach i'r dde). Mae'r maes parcio yma am ddim dydd Llun i ddydd Gwener (mae yna gost ar benwythnosau a Gŵyl y Banc).

Mae yna Faes Parcio Talu ac Arddangos Preifat ar gael yn Fodlondeb (y maes parcio mawr i'r chwith ac o flaen adeilad Bodlondeb).

Hefyd, mae yna Feysydd Parcio Talu ac Arddangos yn y dref, y Maes Parcio Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy agosaf yw Mount Pleasant.

Mae mynediad da i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn drwy’r adeilad cyfan. Mae gwybodaeth ar gael drwy ddefnyddio fideos yn Iaith Arwyddion Prydain yn y Ganolfan ac mae meddalwedd Sign Solutions InterpretersLive! ar gael yn y llyfrgell.

Stori Gymdeithasol

Maes parcio ymwelwyr ym Modlondeb gyda Chanolfan Ddiwylliant Conwy i’w gweld ar draws y parc
Y tu allan i Ganolfan Ddiwylliant Conwy yn dangos y drws ffrynt, croesfan sebra yn croesi ar draws ffordd Town Ditch Road a waliau tref Conwy
Tu allan i Ganolfan Ddiwylliant Conwy yn dangos drws ochr a man parcio anabl gyda thri char
Y tu allan i Ganolfan Ddiwylliant Conwy yn dangos ardal o laswellt a phortico
Tu blaen Canolfan Ddiwylliant Conwy yn dangos y grisiau a’r canllawiau yn arwain at y brif fynedfa