80 Mlynedd gydag 80 Llun o Bobl Leol - Clwb Camera Conwy
80 Mlynedd gydag 80 Llun o Bobl Leol gan Clwb Camera Conwy yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy.
Clwb camera Conwy yn nodi 80 mlynedd gydag 80 llun o bobl leol!
Mae Clwb Camera Conwy wedi dadorchuddio arddangosfa o 80 o luniau o bobl leol, un a aned ym mhob blwyddyn ers sefydlu’r clwb yn 1945.
Mae’r lluniau bellach i’w gweld yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy tan gynnar mis Medi.
Fe ffurfiwyd y clwb fel Clwb Camera Gogledd Cymru, ym mis Ionawr 1945 ar ôl i reolwr garej Alec Orr, roi hysbyseb yng ngholofn hysbysebion personol mewn papur newydd lleol yn 1944. Eleni, mae 90 o aelodau’r clwb yn cymryd rhan mewn gweithgareddau i ddathlu penblwydd y clwb yn 80.
Rhwng mis Ionawr a mis Ebrill, bu naw ohonynt yn tynnu lluniau o’r gymuned i greu cyfres o bortreadau sydd bellach ar ddangos.
Mae’r arddangosfa’n cynnwys portread o Janette Hughes yn ystod ei chyfnod yn Faer Conwy, a ddaeth i ben ym mis Mai. Yn agoriad yr arddangosfa, dywedodd: “Rydw i fy syfrdanu ar ôl dod yma heddiw a gweld y lluniau yma.
“Mae’r arddangosfa yma’n dod â phob agwedd, oedran, cefndir o’r gymuned yr ydym yn byw ynddi at ei gilydd. Mae’n brawf o broffesiynoliaeth a gwaith caled eich clwb, ond mae hefyd yn glod i’r gymuned yr ydym yn byw ynddi.
“Rwy’n hynod o falch mai fi oedd y Maer pan oedd hyn yn digwydd, gan ei fod yn golygu fy mod yn yr arddangosfa ac fe ges i gymryd rhan yn y dathliad hwn.”
Athrawes yw Janette ac roedd nifer o’r wynebu’n gyfarwydd iddi. “Mae yna gymaint o bobl yma rwyf wedi tyfu fyny gyda nhw, wedi cydweithio â nhw neu hyd yn oed eu dysgu,” meddai “Mae yna deimlad personol iawn i mi yma. Mae rhai o’r plant yma yn blant i bobl rwyf wedi’u dysgu hefyd.”
Rhoddodd gadeirydd y clwb, Bob Gretsy deyrnged i Alec Orr am gymryd y cam cyntaf tuag at sefydlu’r clwb yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Diolchodd Bob hefyd i’r ffotograffwyr a gymerodd ran ym mhrosiect ‘80 Mlynedd, 80 Wyneb’. “Dwi’n meddwl ei fod yn eithaf pwerus ei weld wedi’i arddangos fel ‘na,” meddai.
Mae’r portreadau du a gwyn wedi’u cyflwyno mewn dwy res ar hyd un wal yn y Ganolfan Ddiwylliant. Tynnwyd llun pawb yn erbyn cefndir plaen, i ddarparu cysondeb ar draws y gyfres ac i osgoi unrhyw beth yn y cefndir rhag tynnu sylw.
Dywedodd dinesydd a chyn Faer Conwy Vicky Macdonald, sydd yn yr arddangosfa: “Dwi’n meddwl bod yr arddangosfa wir yn hyfryd, ac mae’n adlewyrchu cymaint am Gonwy.”
Dywedodd Sgowtfeistr Conwy Ray Castle, sydd hefyd i’w weld yn yr arddangosfa: “Mae’n bwysig iawn bod pethau fel y clwb camera yn gweithio i’r gymuned yng Nghonwy, ac mae’n rhan annatod o’r dref.”