Conwy Culture CYM

Search website

Hanes Tai

Oes arnoch angen help i ddechrau chwilio am hanes eich tŷ? Cyn ymweld ag Archifau Conwy, edrychwch ar y canllaw defnyddiol hwn i’n hadnoddau.

Dyma rai o’r casgliadau o gofnodion sydd gennym a allai eich helpu...

Cofnodion y Cyfrifiad

Gallwch chwilio’r cyfrifiad rhwng 1841 ac 1911 ar wefannau fel Ancestry a Findmypast. Rydym yn darparu mynediad am ddim i’r ddwy wefan hyn yn Archifau a Llyfrgelloedd Conwy. Doedd dim cyfrifiad yn 1941, ond mae cofnod defnyddiol iawn o’r enw Cofrestr 1939, sydd yn cynnwys gwybodaeth debyg i’r wybodaeth sydd mewn cyfrifiad. Mae gwybodaeth y cyfrifiad ar gael i’r cyhoedd ar ôl 100 mlynedd – mae FindMyPast yn ddiweddar wedi digideiddio Cyfrifiad 1921. Mae cyfrifiad 1921 bellach ar gael yn y Gwasanaeth Archifau yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy. Diolch i Go North Wales am eu nawdd caredig.

Gallwch chwilio am eich cyfeiriad yn y cyfrifiad, a chanfod enwau, oedran a galwedigaeth cyn breswylwyr. Gall hefyd eich helpu i ddyddio eich eiddo, neu ddarganfod enwau gwahanol fu ar eich cartref.

Llyfrau Trethi

Mae’r rhain yn rhoi rhestr o berchnogion a phreswylwyr yr holl eiddo trethadwy mewn ardal awdurdod lleol. Mae gennym gyfres fwy llawn ar gyfer hen ardal Aberconwy nac ar gyfer hen ardal Colwyn. Mae’r rhain yn cynnwys yr 1860au i’r 1990au, gyda nifer o fylchau.

Cofnodion Penseiri ac Adeiladwyr

Mae gennym gofnodion y pensaer Colwyn Foulkes a’r contractwr adeiladu o Landudno, Frank Tyldesley, ymysg eraill. Gallai’r rhain ddangos yr adeiladau gwreiddiol neu addasiadau, estyniadau ac atgyweiriadau.

Cynllunio Rheoli Adeiladau

Byddai’r rhain yn cael eu cyflwyno i’r awdurdod lleol am ganiatâd i adeiladu. Gallent gynnwys cynlluniau, gweddluniau a rhannau o’ch eiddo pan gafodd ei adeiladu gyntaf neu pan gafodd ei addasu. Mae gennym gyfres fawr o hen ardal Aberconwy, gan gynnwys Cyngor Rhanbarth Trefol a Bwrdeistref Conwy o tua 1885 i’r 1950au, ac eraill gan gynnwys Nant Conwy, Llanrwst, Penmaenmawr a Betws-y-Coed.

Mae gennym hefyd gopïau wedi eu argraffu a chopïau microffilm o gynlluniau Ystad Mostyn rhwng 1776 ac 1959.

Y Gofrestr Etholiadol

Cychwynnodd y Gofrestr Etholiadol yn 1832, ond yn raddol yr estynnwyd yr hawl i bleidleisio i gynnwys menywod yn 1928. Mae gennym gopïau microffilm ar gyfer hen Wardiau Sir Gaernarfon rhwng 1921 ac 1956 (gyda bylchau), mae’r cofrestrau gwreiddiol gennym ar ôl 1938 ar gyfer wardiau etholiadol o fewn Bwrdeistrefi Colwyn ac Aberconwy (gyda bylchau). Mae’r bwrdeistrefi hynny bellach yn ffurfio Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Byddant yn dangos pwy oedd yn arfer byw yn eich tŷ, a gallent eich helpu i ddarganfod pryd gafodd ei adeiladu.

Ewyllysiau a Gweinyddiaethau

Mae gennym rai ewyllysiau, profebion ewyllysiau a gweinyddiaethau – gallai’r rhain eich helpu i ddarganfod pwy oedd yn berchen eiddo yn flaenorol, a phwy etifeddodd yr eiddo.

Cyfarwyddiaduron

Mae’r llyfrau hyn yn rhestru trigolion a chrefftwyr yn y trefi a’r pentrefi mwyaf. Mae gennym gyfarwyddiaduron strydoedd ar gyfer blynyddoedd ac ardaloedd amrywiol rhwng 1844 ac 1974 (gyda bylchau). Mae Cyfarwyddiaduron Gogledd Cymru 1818 hyd at 1936 hefyd ar gael. Maent yn ddefnyddiol ar gyfer darganfod pwy arferai fyw yn eich tŷ, ac a fu ganddo enw gwahanol ar unrhyw adeg.

Gweithredoedd Eiddo

Os byddwch yn lwcus gallech ddod o hyd i wybodaeth am eich cartref mewn hen weithredoedd eiddo a morgeisi mewn cofnodion cyfreithwyr. Os byddant gennym, byddant yn dangos newidiadau ym mherchnogaeth eich eiddo.

Lluniau a Phrintiau

Mae gennym filoedd o luniau a phrintiau, ac mae’n werth gofyn i ni beth sydd gennym o safbwynt eich ardal chi. Os nad yw enw eich cartref yn y catalog, mae’n bosib fod llun ohono fodd bynnag, yn enwedig os yw oddi ar stryd fawr neu hen lwybr tramiau.

Mapiau’r Arolwg Ordnans

Gall rhain helpu i nodi’n union pryd adeiladwyd tŷ, a gallent ddangos adeiladau, lleoliad a newid enwau. Mae’r argraffiadau 25 modfedd a 6 modfedd ar gael mewn 4 argraffiad: c1888, 1900, 1912-1913 ac 1937.

Mae’n bosib na fydd gennym yr holl argraffiadau o bob taflen, ond fel arfer gallwn ddarparu o leiaf 2 at bwrpas cymharu, ar gyfer sir Conwy gyfan. Mae gennym gyfres o fapiau’r Grid Cenedlaethol hefyd o tua 1955 hyd at 1995.

Cofnodion Degwm

Os gallwch weld eich tŷ ar argraffiad cynharaf map yr Arolwg Ordnans, mae’n werth edrych ar y Mapiau a’r Rhestrau Degwm. Mae’r rhain yn dangos perchnogaeth, galwedigaeth a defnydd hanesyddol.

Mae gennym rai gwreiddiol, a chopïau papur ar gyfer sir Conwy gyfan. Gallwch chwilio am wybodaeth hefyd ar gyfer Cymru gyfan fan hyn.

Trethi Tir

Mae gennym gofnodion trethi tir ar gyfer rhan o’r sir ar ficroffilm rhwng 1746 ac 1812, ac mae’r cofnodion 1910 ac 1956 mewn llyfr. Os oedd perchnogaeth tir yn gysylltiedig â’ch cartref, mae’n bosib y gallech ddarganfod pwy oedd ei berchennog a phwy oedd y meddianwyr.

Catalog Ar-lein

Mae sawl math gwahanol o gofnodion i’w darganfod – edrychwch ar ein catalog ar-lein.