Conwy Culture CYM

Search website

Hanes Teulu

Hoffech chi help i ymchwilio i hanes eich teulu? Edrychwch ar y canllaw defnyddiol hwn cyn ymweld ag Archifau Conwy.

Dyma ychydig o adnoddau y gallwch eu defnyddio i archwilio hanes eich teulu yn Archifau Conwy:

Cofnodion y Cyfrifiad

Cychwynnodd y cyfrifiad cyntaf yn 1801 ac fel arfer mae’n cael ei gynnal bob 10 mlynedd, er nad oes llawer o wybodaeth wedi goroesi o’r cyfnod cyn 1841. Doedd dim cyfrifiad yn 1941, ond mae cofnod defnyddiol iawn o’r enw Cofrestru 1939, sydd yn cynnwys gwybodaeth debyg i wybodaeth y cyfrifiad.

Gallwch chwilio’r cyfrifiad rhwng 1841 ac 1911 ar wefannau fel Ancestry a Findmypast. Rydym yn darparu mynediad am ddim i’r ddwy wefan hyn yn Archifau a Llyfrgelloedd Conwy. Mae gwybodaeth y cyfrifiad ar gael i’r cyhoedd ar ôl 100 mlynedd – mae FindMyPast yn ddiweddar wedi digideiddio Cyfrifiad 1921. Mae cyfrifiad 1921 bellach ar gael yn y Gwasanaeth Archifau yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy. Diolch i Go North Wales am eu nawdd caredig.

Cofrestri Plwyfi

Mae’r rhain yn ffynhonnell dda o wybodaeth ar fedyddiadau, priodasau a chladdedigaethau cyn 1837. Mae gwybodaeth am sir gyfan Conwy ar gael ar ficroffilm. Gallwch weld y cyfrolau gwreiddiol ar gyfer sawl plwyf, gan gychwyn gyda thref Conwy yn 1541.

Ardysgrifau’r Esgob

Copïau’r Esgob ei hun o Gofrestri Plwyfi yw Ardysgrifau’r Esgob. Mae gennym rai copïau ar ficroffilm, a allai fod o gymorth i lenwi bylchau os yw Cofrestri Plwyfi ar goll neu’n anodd eu darllen.

Cofnodion Capeli

Nid yw cofnodion capeli anghydffurfiol wedi goroesi mor dda â chofnodion plwyfi’r eglwys. Fodd bynnag, mae’r rhai a wnaeth oroesi yn aml yn cynnwys Cofrestr Aelodau a chofnodion Ysgol Sul, sy’n gallu bod yn ddefnyddiol iawn. Mae gennym ficroffilmiau hefyd o Gofrestri Bedyddio’r Capeli hyd at 1837.

Cofnodion Ysgolion

Does dim Cofrestri Derbyn gennym ar gyfer yr holl ysgolion yn y sir, ond mae’r rhai sydd wedi goroesi yn ddefnyddiol iawn o safbwynt hanes teulu. Dydy Llyfrau Cofnodion Ysgolion ddim yn sôn am ddisgyblion yn aml, ond mae’n werth eu gwirio. Mae’r rhan fwyaf o gofnodion ysgolion ar gyfer hen Sir Gaernarfon gan gynnwys rhannau o Sir Conwy ar gael, a rhai ar gyfer ysgolion yr hen Sir Ddinbych, gan gynnwys Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst.

Papurau newydd

Mae gennym lawer o bapurau newydd, gan gynnwys The Original Llandudno Directory (1866 hyd at 1909), Llandudno Advertiser (1885 hyd at 1998), North Wales Weekly News (1889 hyd at y presennol), Pioneer (1898 hyd at 2020), The Pilot (1902 hyd at 1936), Conwy Free Press (1948 hyd at 1954), Abergele Visitor (1915 hyd at 2008) a’r Denbigh Free Press (1997 hyd at 2003).

Gallwch ddod o hyd i golofnau marwolaethau a chyhoeddiadau personol, ac yn y papurau newydd cynnar o Landudno, mae rhestrau o’r prif drigolion ac ymwelwyr. Mae gennym fynediad am ddim ar y safle i wefan Archif Papurau Newydd Prydain, ble gallwch chwilio ar-lein drwy nifer o bapurau Prydeinig. Gallwch chwilio ar-lein am ddim gartref ar wefan Papurau Newydd Cymru Ar-lein, sydd yn cynnwys papurau newydd o 1804 i 1919.

Llyfrau Trethi

Mae’r rhain yn rhoi rhestr o berchnogion a phreswylwyr yr holl eiddo trethadwy mewn ardal awdurdod lleol. Mae gennym gyfres fwy llawn ar gyfer hen ardal Aberconwy nac ar gyfer hen ardal Colwyn.

Cofnodion Mynwentydd

Gallwn chwilio cofnodion claddu ar eich rhan ar gyfer y mynwentydd dinesig oedd dan ofal Cyngor Bwrdeistref Aberconwy hyd at 1996. Mae’n cofnodion yn cynnwys mynwentydd dinesig yn Llandudno, Conwy, Llanfairfechan, Llanrwst, Llangwstennin a Phenmaenmawr.

Mae gennym gopïau o Arysgrifau Coffadwriaethol nifer o eglwysi a rhai capeli yn Sir Conwy. Mae’r rhain yn cynnwys cynlluniau mynwentydd yn ogystal â’r testun sydd ar gerrig beddi a chofebau. Maent yn ddefnyddiol ar gyfer gwirio dyddiadau a chysylltiadau teuluol yn ogystal ag ar gyfer dod o hyd i feddi penodol.

Deddf y Tlodion

Ychydig yn fylchog yw’r cofnodion, ond mae rhai cofnodion Cynghorau Plwyfi yn cynnwys llyfrau Asesu Trethi’r Tlodion, Cyfrifon Goruchwylwyr, Tystysgrifau Setliadau a Gorchmynion Symud. Mae Llanbedr-y-cennin yn benodol yn cynnwys cyfres dda o’r rhain.

Sesiwn Chwarter a’r Sesiwn Fach

Mae’r cofnodion llys hyn yn gyfoeth o gyfeiriadau at bobl, er y gall y llawysgrifen fod yn anodd i’w ddarllen. Mae cofnodion Sir Gaernarfon rhwng 1611 ac 1876 ar gael ar ficroffilm, ac mae Sesiynau Chwarter Sir Ddinbych rhwng 1706 ac 1800 ar gael ar CD-ROM. Mae cofnodion y Sesiwn Fach yn cynnwys datganiadau gan dystion, enwau swyddogion y llys gan gynnwys yr heddlu, yn ogystal â manylion y cyhuddedig.

Trethi Tir

Mae gennym gofnodion trethi tir ar gyfer rhan o’r sir rhwng 1746 ac 1812 ar ficroffilm, a chofnodion rhwng 1910 ac 1956 mewn llyfr. Maent yn rhestr perchnogion a meddianwyr eiddo yr oedd modd eu hasesu.

Cofnodion Degwm

Mae’r rhain yn fapiau a rhestrau sy’n dangos perchnogaeth, galwedigaeth a defnydd hanesyddol. Mae gennym rai gwreiddiol, a chopïau papur ar gyfer sir Conwy gyfan. Gallwch chwilio am wybodaeth hefyd ar gyfer Cymru gyfan fan hyn.

Cyfarwyddiaduron

Mae’r llyfrau hyn yn rhestru trigolion a chrefftwyr yn y trefi a’r pentrefi mwyaf. Mae gennym gyfarwyddiaduron strydoedd ar gyfer blynyddoedd ac ardaloedd amrywiol rhwng 1844 ac 1974 (gyda bylchau). Mae Cyfarwyddiaduron Gogledd Cymru 1818 hyd at 1936 hefyd ar gael yn yr Archifau ar CD.

Y Gofrestr Etholiadol

Cychwynnodd y Gofrestr Etholiadol yn 1832, ond yn raddol yr estynnwyd yr hawl i bleidleisio i gynnwys menywod yn 1928. Mae gennym gopïau microffilm ar gyfer hen Wardiau Sir Gaernarfon rhwng 1921 ac 1956 (gyda bylchau), mae’r cofrestrau gwreiddiol gennym ar ôl 1938 ar gyfer wardiau etholiadol o fewn Bwrdeistrefi Colwyn ac Aberconwy (gyda bylchau). Mae’r bwrdeistrefi hynny bellach yn ffurfio Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Catalog Ar-lein

Mae sawl math gwahanol o gofnodion eraill i’w darganfod – edrychwch ar ein catalog ar-lein. Os byddwch yn lwcus gallech ddod o hyd i wybodaeth am eich teulu mewn hen weithredoedd eiddo a morgeisi mewn cofnodion cyfreithwyr. Mae gennym filoedd o luniau hefyd, gan gynnwys rhai timau chwaraeon a dosbarthiadau ysgolion.