Eitemau yn yr Casgliad
Eitemau ein hamgueddfa ar gael i'w weld o amgylch Sir Conwy.
Clwbiau Affricanaidd: 'Clwbiau'r Congo'
Cariwyd y clybiau hyn gan rai o fyfyrwyr y Sefydliad Affricanaidd ar eu taith i Fae Colwyn. Cawsant eu defnyddio pan oedd y myfyrwyr yn siarad ag ar adegau pan oeddent yn codi arian i'r Sefydliad Affricanaidd. Maent yn rhan o arddangosfa Tŷ'r Congo / Sefydliad Affricanaidd yn Llyfrgell Bae Colwyn.
Celc Oes Efydd (atgynhyrchiadau)
Atgynhyrchiadau o dair bwyell o'r Celc Oes Efydd Abergele a chelf gan blant roedd wedi cael eu hysbrydoli ganddyn nhw, gall cael ei weld yn Llyfrgell Abergele. Cafodd y gelf eu creu fel rhan o Ŵyl Archaeoleg 2024. Gallwch chi weld y Celc Oes Efydd Abergele gwreiddiol yn cael ei arddangos yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy.
Peiriant Golchi Hotpoint
Cafodd y peiriant golchi hwn ei wneud yn lleol yng Nghyffordd Llandudno, lle’r oedd ffatri Hotpoint yn un o gyflogwyr mwyaf yr ardal. Enw’r model hwn yw Countess.
Arddangosfa Llyfrgell Plant Conwy
Mae Arddangosfa Llyfrgell Plant Conwy yn cynnwys:- Tudalen Llyfr Gwestai Betws y Coed; Pwrs Swfenîr Cragen Las; Lluniau Archifau ar blatiau; Darn o Cwch Goosey - Roedd Goosey yn ddyn lleol o Ddolgarrog wnaeth edrych am oroeswyr ar ôl Trychineb Argae Dolgarrog yn 1925. Cafodd y darn o'r cwch ei adnau gan ei wyres.
Tŷ Doli 'Conway Valley'
Wnaeth B.S. Bacon (Games) Ltd creu ffatri teganau yn Llanrwst yn 1947, wnaethant nhw greu tai doli o dan yr enw 'Conway Valley'. Enw'r ffatri oedd Bes Bac Works.
Gallwch ddod o hyd i fideo o un o dai dolau Gwasanaeth Amgueddfa Conwy i'w weld yma!