Jasmine Pilling Audio Intro
Pwy ydym ni?
Mae Amdani! Conwy’n brosiect partneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC), Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy (CGGC) a Chelfyddydau Anabledd Cymru.
Mae Amdani! Conwy’n brosiect partneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC), Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy (CGGC) a Chelfyddydau Anabledd Cymru. Mae Amdani! Conwy yn brosiect peilot sydd wedi’i ariannu’n hael gan gronfa Dinasoedd Gwirfoddoli Spirit of 2012: Cronfa Dinasoedd Gwirfoddoli a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae Amdani! Conwy yn rhan o Strategaeth Diwylliant ehangach Creu Conwy..
JASMINE PILLING Rheolwr Rhaglen Gwirfoddolwyr CGGC
Jasmine ydw i, Rheolwr Rhaglen Gwirfoddolwyr Amdani Conwy! Mi fydda i’n gyfrifol am greu a datblygu rhaglen wirfoddoli gynhwysol a diddorol newydd ar gyfer Conwy, ochr yn ochr â David sy’n Swyddog Mynediad a Chynhwysiant.
Mae gen i gefndir mewn newyddiaduriaeth darlledu, ond yn ystod y chwe blynedd ddiwethaf rydw i wedi bod yn ymwneud llawer â gweithgareddau gwirfoddoli a rheoli yn y trydydd sector. Rydw i hefyd wedi gwirfoddoli fel cyflwynydd radio ar gyfer Bayside Radio a dw i’n frwdfrydig iawn dros y byd gwirfoddoli! Felly dw i’n hynod gyffrous i ddechrau adfer gwirfoddoli a gwneud gwirfoddoli yn fwy hygyrch, cynhwysol a HWYL!
David Cleary Audio Intro
DAVID CLEARY Swyddog Mynediad a Chynhwysiant Celfyddydau Anabledd Cymru
David ydw i a fi ydi Swyddog Mynediad a Chynhwysiant Amdani Conwy! drwy Disability Arts Cymru. Byddaf yn gweithio gyda Jasmine i agor Amdani Conwy! i’r gymuned ehangach. Fy ngwaith i ydi cynnal gofod lle gall cymysgedd o leisiau gwahanol (llafar a di-eiriau) helpu i siapio Amdani! a chynnig cymorth ychwanegol i wneud i’r prosiect weithio i’r rheiny sydd ei angen.
Symudais i Gonwy yn 2021 o Hull, fy nhref enedigol, a dw i wedi bod yn gweithio mewn orielau fel curadur sy’n arbenigo mewn prosiectau dysgu a chydweithio rhwng artistiaid a chymunedau. Rydw i’n edrych ymlaen at archwilio dulliau newydd o ddod â phobl at ei gilydd gyda chreadigrwydd a diwylliant.