Conwy Culture CYM

Search website

Dod yn Gefnogwr Gwirfoddolwr

Ydych chi’n sefydliad celfyddydol neu gymunedol yng Nghonwy sydd eisiau cefnogaeth gwirfoddolwr? Dewch yn gefnogwr gydag Amdani! Conwy heddiw, a chewch gefnogaeth gan ein cohort o wirfoddolwyr!

CAM 20230530 0020

Ydych chi’n sefydliad celfyddydol neu gymunedol yng Nghonwy sydd eisiau cefnogaeth gwirfoddolwr? Dewch yn gefnogwr gydag Amdani! Conwy heddiw, a chewch gefnogaeth gan ein cohort o wirfoddolwyr!

Mae Amdani! Conwy’n bodoli i gefnogi’r sector celfyddydau, treftadaeth a diwylliant yng Nghonwy. Mae ein gwirfoddolwyr ar alwad i gefnogi orielau, amgueddfeydd, gwyliau, theatrau, digwyddiadau, cymunedau a mwy yng Nghonwy. Gallwch ganfod a yw Amdani! Conwy’n iawn i chi, drwy ddarllen y Llawlyfr Cefnogi Gwirfoddolwyr.

Llawlyfr Cefnogi Gwirfoddolwyr

Rydym wedi creu canllawiau â Chwestiynau Cyffredin gan Wirfoddolwyr hefyd i helpu gyda chanfod os yw Amdani! Conwy’n eich gweddu chi.

Cwestiynau Cyffredin gan Wirfoddolwyr

Darllenwch ragor am Bolisïau Amdani! Conwy yma.

Sut i gofrestru

Llenwch Ffurflen Disgrifiad o Rôl Gwirfoddolwr i ddweud rhagor wrthym am eich cyfle. Drwy gyflwyno’r cyfleoedd hyn i ni, rydych yn llofnodi ein Cytundeb Cefnogwr Gwirfoddolwr yn awtomatig, fel yr amlinellir yn nhudalen 8 y Llawlyfr Cefnogi Gwirfoddolwyr.

Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl. Po fwyaf y byddwn yn gwybod, mwyaf y gallwn rannu gyda’n gwirfoddolwyr. Dyma ganllawiau i’ch helpu i gwblhau’r ffurflen.

Os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth ar fformat arall, cysylltwch â ni:

E-bost: Amdani@cvsc.org.uk

Rhif Ffôn: 07743932406

V2 Amdani WEB 1048 x 250 Partnership Banner 1200